Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF. XXXI. CYFROL III. HYDREF, 1878. PRIS CEINIOG. PRIP WEINlDOG- PRYDAIN. ID yw y ' Darlunydd,' fel y mae yn hysbys i'n darllenwyr, yn cymeryd y sylw lleiaf o wleidydd- iaeth bartiol, fel y cyfryw; ond ar gais rhai o'n cyfeillion yr ydym yn awr, ar ddiwedd y Senedd- dymhor, yn cyhoeddi darlun o un o'r dynion hynotaf yn Ewrop—Benjamin Disraeli, Iarll Beaconsfield. Efallai na fu neb yn ddiweddar, nac yn y wlad hon nac ar y Cyfandir, yn fwy o wrthddrych sylw cyhoeddus na'r pendefig uchod ; a diau y bydd braslinelliad o'i hanes, f eí llenor a gwleidyddwr, yn dderbyniol gan hiaws o'n darllenwyr ieuengaf. Representative.' Bu farw y papyr hwnw yn 1831, ar ol cael pum mlynedd o einioes ddigon nychlyd. Mae yn debygol mai ei gysyllt- iad â'r newyddiadur a enwyd a roes duedd gyntaf yn y llenor ieuanc at wleidyddiaeth. Yn 1828 yr ymddangosodd gyntaf fel awdwr,pany cyhoeddodd y ffug-chwedl " Vivian Grey;" adywedai yr Arglwyddes Blessington, cyfeilles i Mr. Disraeli, fod arwr " Vivian Grey " yn ddarlun lled gywir o awdwr y llyfr—yn llawn athrylith a hyawdledd. Dilynwyd v gwaith hwn gan amryw lyfrau ereill o'i eiddo ar ddull ffug-chwedlau, megis "Alroy;" " Con- tariniFleming;" "The YoungDuke;" " Çomngsby ;; a Tancred Efallai mai y peth mwyaf dyddorol, fel ffaith lenyddol, ydyw fod IABLL BEACONSFIELD, K.G. Mab ydyw Prif Weinidog presennol Prydain i'r awdwr adna- byddus, Isaac Disraeli, yr hwn a ysgrifenodd y " Curiosities of Literature," a'r " Calamities of Authors" (gweithiau ag sydd yn weith eu darllen yn fanwl), yn gystal ag amrywiol lyfrau ereill. Ganwyd gwrthddrych ein hanes ar y 21ain o Ragfyr, 1805. Fel llawer dyn hynod arall, profodd yn foreu fod ynddo dalentau dis- glaer—talentau a'u dyrchafasant mewn blynyddau diweddarach i safìe dra uchel mewn llenyddiaeth a gwleidyddiaeth._ Bwriadwyd ar y cyntaf ei ddwyn i fyny fel cyfreithiwr, a bu am dymhor mewn swyddfa yn Llundain yn ceisio astudio y gangen sych-ddyrus hono o wybodaeth a ddynodir y " gyfraith." Eithr mwy cydnaws o lawer â'i athrylith ydoedd llenyddiaeth, ac am hyny ni bu yn hir cyn gadael am byth ddesc uchel y cyfreithiwr ac ymneilluuo i ystafell y llenor. Fel Llenor, gwnaeth Mr. Disraeli ei ymddangosiad cyntaf yn 1826, pryd yr ysgrifenai i newyddiadur Toriaidd a elwid ' The pob un o'r llyfrau yn rhoddi mantais ì'r darllenydd llygadgrafF weled eu hawdwr mewn amrywiol gymeriadau—y gwleidyddwr, yr athronydd duwinyddol, "dyn y byd," ac, yn arbenig,yr luddew cenedlgarol, twym-galon, a rhamantus. Heblav»r y ffug-chwedlau a nodwyd, cyhoeddodd Mr. Disraeli, yn 1834, gyfrol o farddon- iaeth, yn orlawn o'r syniadau mwyaf gwyllt a beiddgar, dan yr enw " The Ilevolutionary Epic." Ysgrifenodd hefyd fywgraphiad o'i gyfaill, Arglwydd George Bentinck, A.S. Ei waith diweddaf, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1870, ydoedcl ffug-chwedl dan y teití Lothair," yn mha un y mae wedi tynu â llaw meistr ddailuniau o'r Cardinal Manning, y diweddar Esgob Wilberforce, y Proffeswr Goldwin Smith (gynt o K\dychain), ac, fel y tybir, Ardalydd Bute, un o'r tir-feddiannwyr mwyaf yn Neheudir Cymru. Prif amcan yr awdwr yn ei lyfr diweddaf hwn ydoedd dangos i'r cy- hoedd y moddion cyfrwys-gall a ddefnyddir gan y Pabyddion i wneyd offerynau o'r Defodwyr, yn gystal a'r cynnorthwy effeithiol