Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDIAD MISOL Y B 0 B L RHIF. XLVIII. OYFROL IV. RHAGFYR, 1879. PRIS CEINIOG. MR. LEWIS LEWIS, MAER CAERNARFON. AE cymeriad," ebai y diweddar larll llussell unwaith, wrth gyfarch Ty y Cyffredin, "yn llawer gwerth- fawrocach yn ngolwg ein gwlad ni nag ydyw talentau gwychion neu gyfoeth mawr." Ni ddywedodd y gwleidyddwr enwog hwnw ddim erioed oedd yn fwy eyson â gwirionedd nac yn fwy nodweddiadol o farn y wlad hon ; ac, yn wir, o syniad dynolryw yn gyfFredinol. Mynych iawn, ysywaeth, y teulu neu y cyfoe'th, neu, Och ! hyd yn nod y dillad, sydd yn gwneyd y dyn j eithr syniad bâs, di-rym, ac anghywir i'r eithaf ydyw un fel hwn ; a pho fwyaf yr ystyrir yr hyn a fwriadwyd i ddyn fod, yr hyn ydyw, a'r hyn a fydd, eglur yw fod dyndod a chymeriad yn an- wahanol gysylltiedig. Yn aml iawn dyrchefìr masnachwr i gadair faerol ei fwrdeisdref yn benaf, os nad yn unig, ar gyfrif ei gyfoeth; nid oherwydd ei gymeriad meddyliol na moesol. Bryd arall, dewi"sir boneddwr yn faer oherwydd fod ei gymeriad yn anrhydeddu y swydd faerol, ac nid y swydd hono yn rhoddi cymeriad ffugiol am íiwyddyn i'r gŵr a fyddo yn ei llenwi.