Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 21.] EBRILL, 1837. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. HOWELL WILLIAMS, LLANELLI, SWYDD GAERFYRDDIN. Gwael yw, fod enwau y íFyddloniaid a ogoneddasant Dduw ac a wasan- aethasant eu cenedlaeth yn eu tymhor, yn cael eu claddu yn llwch anghof, pan gleddir hwythau. Wedi iddynt flaenori am flynyddau gyda'r achos, i'r hwn y dylai pob achos arall yn y byd ymostwng, ac egniol ddefnyddio y moddion er lledaenu yr achos, gweddus yw trosglwyddo eu henwau yn nglŷn â'r achos hwnw i'r oesau dilynol. Pan mae i'r beirdd eu cofF- adwriaethau, i gofnodi eu gorchest- ion awenyddawl,—pan mae enwau seneddwyr yn uchel ar du-dalenau hanesyddiaeth, er bytholi eu medrus- rwydd, eu flyddlondeb, a'u llafur yn achos eu gwlad,—pan mae ein tir wedi ei fritho â chof-golofnau, er tragywyddoli enwau y de\* rion fuant yn gwneyd celaneddau dynion yn sarn i'w traed ar faes y gwaed,—oni ddylai hefyd gof-adeilau, nid o ddef- nyddiau marmoraidd, ond o bapur ac inc, gael eu codi i'r rhai hyny a wnaethant lawer mwy i ddedwyddu y teulu dynol nâ'r seneddwr a'r rhy- felwr ? Wrth hyn dèlir deuparth eu hysbryd a'u mhentyll, fel y disgynont ar y rhai a adawont ar eu hol, i sefyll yn eu lle. Dan yr ystyri|tethau hyn cymmerais y gorchwyl mlwn Uaw i gasglu cymmaint ag a allaswn o ha- nes y milwr da sydd â'i enw uwchben y Hinellau hyn. Ganwyd y Parch. Howell Wil- liams yn Pantycelyn, yn nyffryn Honddi, yn mhlwyf Merthyr-cynog, swydd Frycheiniog, yn Ionawr, 1789. Ei dad a'i fam oeddent John a Jane Williams, pa rai oeddynt yn byw ar eu tyddyn eu hunain, mewn am- gylchiadau lled gysurus ; mae ei fam wedi marw er ys blynyddau, ond ei dad sydd yn aros hyd heddyw, er yn hen a methedig. Yr oedd Howell yn un o ddeg o blant. Bu achos Duw yn ardal Merthyr-cynog yn cael ei ddwyn yn mlaen am gryn amser mewn tý annedd a elwir y Monach- dy ; yma cafodd gwrthddrych y Cof- iant hwn y fraint o wrando geiriau y bywyd tragywyddol am amser, ac yma y cafodd ef a'i fam, ac amryw o'i frodyr a'i chwiorydd y fraint o fwrw eu coelbren i blith pobl yr Arr glwydd. Ond yn fuan ar ol hyn gwelwyd fod eisieu lle mwy helaeth i addoli; cafwyd man cyfleus ar dir ei dad, Ue yr adeiladwyd Ebeneser. Oedran Howell pan ymneillduodd oddiwrth blant y cnawd i uno â phobl yr Arglwydd oedd 17eg; ac er mai peth anghyfíredin yn yr ardal oedd arddel Iesu Grist y pryd hyny, yn enwedig yn mhlith y dô ieuanc; ac er fod miloedd o demtasiynau iddo yn ei yrfa foreuol, etto cadwyd ef rhag y drwg sydd yn y byd, fel na chafodd.yr églwys un clwyf na dolur erioed oddiẅrtho. Dilynai y modd- ion gyda diwydrwýdd- a ael, fel yn fuan tybiwyd wrth ei ysgogiadau crefyddol, ei athrylithrwydd mewn ymddyddan, a'i ddawn melus a thodd- edig mewn gweddi, fod Pen yr eg- 14