Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 30.] IONAWR, 1838. [Cyf. III. COFIANT YR HEN F L W Y D D Y N. Cyn y dclo y rhifyn hwn i law, a chyn defnyddio nemawr o ddarllen- wyr y Diwygiwr ef, bydd gwrth- ddrych y cofiant hwn wedi ei myned ac na bydd mwy, ac wedi ei chladdu hyd foreu yr adgyfodiad ddydd. Gan y byddwn yn arfer codi cof-golofnau uwchben ein caredigion a'u cym- mwynaswyr, ac ysgrifenu arnynt rai o lawer o'u rhinweddau a'u cym- mwynasau, tybiwn mai nid annoeth fyddai cofnodi rhai o amgylchiadau, dygwyddiadau, a cliymmwynasau y flwyddyn ddiweddaf. Gall pawb a ddarllenant hyn o li- nellau fabwysiadu iaith y Salmydd, a dweyd, ' Treuliasom hi fel chwedl.' Amrywiol a gwahanol iawn y bu ei chwedl i wahanol bersonau. Lliosog iawn ydyw y dosparth a ddichon ddweyd iddi fod yn chwedl ddifyrus, lwyddiannus, a chysurlawn iawn iddynt hwy ; bob boreu o newydd y dygodd ar ei hadenydd ymgeleddau, waredigaethau, a bendithion am- rywiawg ac aneirif i ni; bu yr Hwn ydd yn troi yr wybrenau mor ofalus im danom ni yn bersonol â phe na uasai ganddo neb i ofalu am da- ynt ond nyni; dadglôdd ein syn- ivyrau, dadebrodd ein haelodau, ac igorodd ein llygaid yn ofalus bob >oreu, fel na bu ein ewsg yn ddy- "yswch i'n synwyrau nac yn angeu n cyrff; huliodd fyrddau llawn a «oreithiog er diwallu ein rheidiau, ysgododd ni â'i aden rhag pläau a eintiau angeuol, cuddiodd ni yn ngheudod ei law rhag rhyferthwy y damweiniau echryslawn a gymmer- asant ereill yn yr un amgylchiadau â ni, ac o'n hynil i ffwrdd; bu yn lloches i ni, cadwodd ni rhag ing; amgylchodd ni â chaniadau ymwa- red. Llwyddodd waith ein dwylaw, mae ein celloedd ní yn Hawn o bob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn mil a myrddiwn yn ein heolydd, a'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd ; ac uwchlaw pob peth, taenodd fwrdd efengyl ger ein bron, â holl arlwyadau y nefoedd arno ; anfonodd ei air i'n iachau, a'i Ysbryd i gynnorthwyo ein gwendid; a daeth llawer i afael etifeddiaeth mwy ei gwerth nâ'r byd; bydd mel- us gofio y chwedl hon yn mhen mil o oesoedd maith. Ond i lawer bu y flwyddyn ddiweddaf yn chwedl ofidus a helbulus iawn,—dygodd hwynt i afaelion aml a blin gystudd- iau, y rhai, pe gwelsid hwy ar ei dechreu, fuasai yn ddigon i beri i lawer ddiffygio. Ni bu amgylch- iadau y flwyddyn yn llai cyfnewidiol nâ'i thymhorau. Ganol yr haf di- weddaf gallesid gweled natur wedi ymdrwsio yn ei harddwisg, y lili a'r meillion a ymrysonent am y flaenor- iaeth mewn rhif, harddwch, a pher- arogl; y dolydd a wisgid è, glaswellt, y goedwig a fwriai allan ei haneirif ddail, ceinciai y durtur yn felus fwyn oddirhwng y cangau, a pher- aidd leisiai yr adar ar y perthi eu 2 r:c