Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 68.] MAWRTH, 1841. [Cyf. VI. COFIANT THOMAS JENRINS, Y NEGRO, Parhad o'r Rhifyn diweddaf, tu-dal. 39. Epallai y güfynir yn awr pa beth oedd cymmeriad personol y siampl anghyffred- inol hwn o gynneddfau Affricanaidd. Yr ydym yn ateb ar unwaith, Y goreu a ellid ddychymmygu. Twm ydoedd ddyn hynod dawel a gostyngedig, yu rhydd oddiwrth bob math o fai, ac yn feddiannol ar dym- mer mor fwynaidd a charedig nes ei wneu- thur yn anwyl i bawb a'i hadwaenai. Yn llyn, efe oedd un o'r personau mwyaf poblogaidd yn holl wlad Teviot-dale. Ei feistr a'i parchasai yn fawr am y modd ffyddlon a selog y cyflawnai ei ddyled- swyddau gostyngedig, a phawb a ymhyf- rydent yn ei orchestion rhyfeddol er cyr- haedd gwybodaeth. Heb gadw un argraff o'i iaith enedigol, yr oedd yn ymdebygoli yn mhob rhyw ystyr, oddieithr lliw ei groen, i wladwr cyffredin yr Alban, ond yn unig ei fod yn fwy dysgedig nâ'r rhan fwyaf o honynt,a threuliai ei amser yn rhyw fodd yn fwy unigol. Yr oedd gwirioneddau y grefydd Gristionogol wedi gwneuthur ar- graffiad dwys ar ei feddwl, ac yr oedd yn aelod rheolaidd yn eglwys yr Alban. Yn gyfangwbl, Twm oedd yn feddiannol ar yr ymdueddiadau Ilyny ag oedd yn ennyn parch ac ewyllys da tuag ato yn mhawb a'i hadnabuant. Pan oedd Twm tuag ugain oed, dygwydd- odd fod angen am athraw i ysgol rydd yn Teviot-head, yr hwn oedd dan olygiaeth Presbytery Jedburgh. Cynnaliasant gyf- rinfa ar ddiwrnod pennodedig yn Hawick, er holiad ymgeiswyr i'r swydd, fel y gallent roddi adroddiadau o'u penderfyniadau i ymddiriedolwyr yr ysgol. Yn mhlith dau neu dri o gydgeiswyr, gwnaeth y gwas du o Falnash ei ymddangosìad, wedi trwsio ei hun cyn wyched ag y medrai pàr clytiog o ddillad milwr ei osod allan. Dianghen- rhaid yw dywedyd etto i'r holwyr gael eu dychrynu; ond rhywfodd llwyddodd gyda hwynt i ddarllen ei lythyrau o gymmerad- wyaeth, a gosodwyd ef i sefyll yr ymholiad; a mwy nâ hyn, gorfodwyd yr holiedyddion i roddi y dystiolaeth yma i'r Presbytery, sef bod ei ragoriaeth yn amlwg, a'i fod yn gymmwysach i'r swydd nâ neb o'i wrth- geiswyr. Twm a ddychwelodd adref yn fuddugoliaethus o'r maes, yn mwynhau yr adfyfyriad boddhaol y buasai yn cael ei ddyrchafu, cyn pen ychydig, i sefyllfa mwy dymunoliddonagunafuasaiynddio'rblaen; yn yr hon y buasai yn mwynhau cyfleusderau anghydmarol well er cyrhaedd addysg. Dros yspaid o amser cafodd ei ddysgwyl- iad llwyddiannus ei ŵyrdroi. Pan ddaeth adroddiad yr holicdyddion ger bron y Pres- bytery, y mwyrif o'r aelodau a edrychasant yn ddyeithr ar osod Negro, wedi ei eni yn bagan, i addysgu plant Cristionogion; a Twm, mewn canlyniad, a ymddifadwyd o freintiau ei brawf (exa?nination). Twm a ddyoddefodd yn erwin oddiwrth hyn, ac ymddengys iddo deimlo yn chwerw anffawd ei groen. Ond yn llwyddiannus, ymddir- iedolwyr yr ysgol a deimlasant mor ddigofus at y camwedd a ddyoddefodd ag a deimlasai yntau yn ofidus o'i herwydd; a gwnaethant, yn nghyd à'u penaeth, Duc Buccleuch, gymmeryd ei achos mor wresog atynt eu hunain, fel y penderfynasant yn union- gyrchol i gyfodi Twm i fynu mewn gwrth- wynebiad i'r athraw a sefydlwyd gan y Presbytery, ac i roddi iddo ddau cymmaint o gyflog ag yr oedd y person hwnw yn ei dderbyn. Hen weithfa gof a adgyweiriwyd er ei dderbyniad, a Twm yn dra buan a ddyrchafwyd i'w swydd gyda chymmerad-