Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 153.] EBRILL, 1848. [Cyf. XIII. TRAETHAWD AR Y DDEDDF FOESOL. (Meumcydymffurfiadû chais y Gol. yn atebiad i S. Jones, yn Niwygiwb Ion., tu-dal. 24.) GAN Y PARCH. R. JONES, TREWEN. Y gofyniad ydyw, pa ddeddf a olygir, am yr hon y dywedir "oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg" ? Gal. 'á, 19. Ateb.—Y ddeddf foesol yn ddiau a olygir, a roddwyd i'r genedl Israelaidd fel corff gweîedig, fel pobl ddewisiedig a neillduol,—rhoddwyd hi iddynt mewn ffurf o gyfamod gweledig ac amserol. Yr oedd Duw wedi dewis y genedl Iuddewig yn eglwys neu bobl neillduol iddo ef, i osod ffurf o addoliad yn eu mysg, er cadw perthynas grefyddol rhyngddo ef â'r byd. Gwnaed y dewisiad yma yn Abraham, yr hyn a elwir deddf ffydd, a chyfamod Abraham, yr hwn oedd weithian yn 430 mlwydd oed. Yr oedd y teulu pryd y gwnaed y cyfamod ag Abraham, yn yêhydig o rií'edi, yn santaidd a dichlynaidd eu moesau, ac yn wir grefyddol; ond erbyn eu dyfod i Sinai yr oeddynt wedi lliosogi mewn rhif ac amlhau mewn anwiredd. Ac megys ag yr oeddent y pryd hyn yn cychwyn eu pererindod i wlad addawedig a phenodedig (Canaan), rhoddwyd y ddeddf foesol iddynt dan ddeg o benau eglur a gwahanredol, a gwisgwyd yr amgylchiad mewn terfysg a braw, er argraffu ar feddwl y genedl ofn a dychryn; yr oedd hyd yn nod y rhoddiad yma o honi yn gerydd arnynt. Achosodd eu " troseddau" roddiad amlwg ac ysgrifenedig o honi er eu cadw mewn ufydd-dod i Dduw, eu Llywydd mawr. Hefyd, yr oedd y rhoddiad yma o'r ddeddf yn gyfamod â hwy, yn cynwys mewn cysylltiad ag ufydd-dod, fendithion tymorol, cysur, a hir ddyddiau yn ngwlad yr addewid; ac fel y cyfryw nid ydoedd i barhau ond hyd ddyfo'diad yr had (Crist), a roddwyd mewn addewid yn nghyfamod Abraham, ac ni fu neb yn ddeiliaid o hono ond yr Israeliaid yn unig. " Eiddo y rhai yw y mabwy.siad, a'r gogoniant, a'r gwasanaeth, a'r cyfamodau, a dodiad y dde'ddf." Er rhoddi y gyfraith Ddwyfol TYiíiwr» tTiint níMll/liirvl i '*» T o *««-i /-» 11 o i r\ r% rt ût» r\ o fti nnr\ f\r\rì nnriT non oniArlrtti *r ■&',■.-.■. i' T._._____ yn ... fod, yn ei pherthynas ag ymddygiad bodau rhesymol yn Uywodi-aeth Duw, ond yr un dan bob goruchwyliaeth, ac yn mhlith pob cenedl. Er cynorthwyo yr anghyfarwydd i gael dirnadaeth o gyfraith, cymerwn dan sylw yr enghraifft syml a ganlyn:—Plentyn a osodir i wneyd, neu beidio gwneyd, rhyw bethau penodol. Dyna y gorchymyn. Y mae yr ufydd-dod yma yn ddyledus oddiwrtho i'w rieni (yn unig yn mhob dyledswydd foesol drwyddynt hwy i'r hyn sydd yn gyntaf ac uwchaf yn rhinwedd a gwirionedd). Dyna yr ymrwymiad. Sicrheir i*r plentyn y bydd gwobr a chosb yn anocheladwy ddilyn ufÿdd-dod neu anufydd-dod. Dyna y cadarnhad. Dyna feddyl-ddrych o gyfraith. Gallwn ddilyn y dyfynion uchod felag y maent yti gymhwysedig at ddyn ; cymerasom ein heglur- had oddiwrth ddysgybîaeth deuluaidd hysbys a dealladwy i bawb. Cyfarwyddir y plentyn mewn rhyw ymddygiad penodedig; rhaid fod gorchymyn yn cael ei fynegu drwy wneyd neu wahardd. Er cadw golwg gyflawn ar gyfraith, mae " na wna" mor angenrheidiol â "gwna hyn/' "Pren gwybodaeth" ydyw y terfyn gwahan- iaethol rhwng da a drwg, drwy ba un y gallwn ddirnad pa beth sydd i'w erlyn a pha beth sydd i'w ochel. Ymae gwahaniaeth hanfodol a thragywyddol rhyng- ddynt. Pan roddir y gorchymyn ar y plentyn, teimla pa beth a ddylai, a pha beth