Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR, Rhif. 155.] MEHEFIN, 1848. [Cyf. XIII. GWYRTHIAU Y B I B L. GAN T PARCH. J. GRIFFITHS, TREFGARN. "Gwyrth," medd y Dr. Johnson, "yw rhywbeth uwchlawgallu dyn." "Gwyrth," medd y Dr. Marsh, " yw rhywbeth nas gellir ei gyflawnu heb gyfryngwriaeth neillduol Duw." Y mae y darluniad blaenaf yn rhagori o ran symledd. Gwrth- ddadleuir yn erbyn yr olaf am ei fod yn cymeryd yn ganiataol yr hyn nas gellir ei brofi, sef nad oes bodau uwch nâ dyn wedi eu, cynysgaethu â galluoedd rhagorach, yn medru cyflawnu yr hyn a ymddengys iddo ef yn wyrthiau. Yr hyn sydd wedi cael ei ddy wedyd drosto yw, nad all trefn natur fod yn agored í'r gwyrad Ueiaf heb gyfryngwriaeth gweithredol ac uniongyrchol ei Hawdwr. Os profir y gosodiad hwn, y mae definition y Dr. Marsh yn dda; os methir, rhwymir ni i dderbyn eiddo y Dr. Johnson. I. Y mae gwyrthiau y Bibl yn wirionedd fel ffeithiau. Yr oeddent y cyfryw rai ag y gallai dynion cyffredin sylwi arnynt.—Yr oedd yn ddigon rhwydd i'r cloff wybod pa un a gafodd nerth i gerdded ai peidio, a pha fodd y cafodd, pa un ai trwy gymhwysiad moddion, ai heb foddion. Yr oedd y pum mil yn medru barnu pa un a gawsant eu digoni. Digon rhwydd oedd î'r dorl' ganfod y tri llanc yn rhodio yn y ffwrn dàn, i ganfod Daniel yn dyfod o'r ffau, a Lazarus o'r bedd. Yr oedd y byd yn llygad-dyst o honynt.—Fe gyflawnodd Mahomet ei wyrthiau mewn ogof gerllaw Mecca. Fe guddiodd y lleuad, meddai ef, yn ei lawes; eithr mewn ogof y gwnaed, ac efe ei hun oedd yr unig dyst. Cyflawnodd ein Iachawd- wr ei wyrthiau mewn modd cyhoeddus, dechreuodd mewn priodas. Gweithiodd mor nerthol yn y gwyliau yn Jerusalem, nes oedd y bobl yn synu, ei elynion yn cael eu dystewi, a'r torfeydd yn llefain, "Hosanna i Fab Dafydd." Y mae coffadwriaethau o honynt, ac hanes am danynt, wedi dyfod i lawr Cn hoes ni.—Y mae Moses a'r proffwydi, yr efengylwyr a'r apostolion, yn llefaru am danynt. Y mae yr ordinhadau sydd yn yr eglwys yn bresenol wedi eu cario i lawr o oes i oes. Yr oedd rhyw achos dechreuol i'w sefydliad; nis gallasai fod yn ddim Hai nà gorchymyn eu syífaenydd, yn cael ei gefnogi trwy awdurdod goruchel, yr hwn a gafodd ei egluro i'r byd trwy gyflawniad gwyrthiau. Y mae yr hanes wedi ei ysgrifenu yn oes y gwyrthiau.—Y mae genym hanes am amrywiol o wyrthiau a gyflawnwyd mewn oesau diweddarach nag eiddo yr apostol- iorî, ac yn cael eu priodoli i dadau yr eglwys, ond nid oes hanes am wyrthiau y tadau wedi ei ysgrifenu gan lygad-dystion; eithr yn mlen dau cant o flynyddau (mwy neu lai) ar ol eu marwolaeth, y mae hanes eu gwyrthiau hwy yn cael ei ys- grlf'énu am y tro cyntaf; oblegid hyn, nid ydynt yn cael eu credu. Ysgrifenwyd hanes gwyrtbiau y BÌbl gan lygaddysüon, y rhai a orphwysent eu bywyd ar y êwirioneddau a gadarnheid iddynt trẃ'y y cvfryŵ wyrthiau. Yr oedd Moses yn yr 23