Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 157.] AWST, 1848. [Cyf. XIII. EGLWYS EPHESUS. DAT. II, 2—6. Yn llyfr Datguddiad arddangosir yr Eglwys yn ei phurdeb cyntefig, ei chynydd a'i llwyddiant boreuol—ei llygriadau graddol—ei chysylltiadau anghrefyddol â llyw- odraethau gwladol—y dylanwad annymunol a gynyrchai y cysylltiad ar y byd—ei hadfywiad o'i syrthni—ei phureiddiad o'i llygredd—ei llwyddiant mil-flwyddol—ei gogoniant yn y dyddiau diweddaf—a'i dedwyddwch annhraethadwy wrth weled y byd, trwy ei hofferynoliaeth, yn ymostwng i Fab Duw. Yn y ran epistolaidd o'r líyfr, dangosir gofal neillduol gan y Pen mawr am ei ddyweddi, mỳn iddi fod yn bur a dihalog yn ei absenoldeb. Ysgrifenodd y llythyrau hyn megys o'r nef at eglwysi Asia, i'w hatal rhag cilio oddiwrtho i gofleidio eilunod; ac fel rhanau ereill o air Duw, maent yn hollol gymhwys, a'r un mor gyfeiriedig at bob eglwys o hyny hyd heddyw, fyddo yn yr un cyffelyb amgylchiadau a theimladau moesol ag oedd eglwysi Asia ynddynt y pryd hwnw. Maent yn deilwng o sylw eglwys Dduw yn mhob gwlad ac oes. Er wedi eu cydwau â chariad, y maent mewn trefn awdurdodol a dull breninol. Tra mae dynion cyffredin yn ol-arwyddo yr ysgrif mae breninoedd yn ei rhag-arwyddo: " Y pethau hyn mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn eu dywedyd," &c. y saith seren," neu weinidogion yr eglwysi, yn ei law ddeheu, a ddengys-fod gan Iesu Gristbarch mawr i'wweision,a'ubodhwythauyn hol eu holl wres,a'uholl oleu oddiwrtho ef; bod unrhyw ddirmyg arnynt hwy yn cael ei deimlo ganddo ef. " Yrhwn sydd yn rhodio yn nghanol y saith canwyllbren aur." Mae yn amlwg fod yr Èglwys hon wedi dirywio ychydig, er ei bod yn enwog a lliosog yn awr, eto yr oedd ei hawydd yn llai am wrando: esgeulusai y moddion cyhoeddus a neillduol. Pan fuasai yr "angel" wedi parotoi gwledd i enaid.trwy ymchwil a llafur caled, buasent hwy gyda y crochanau yn darparu gwledd i gyrff. Nid oedd un llygad daearol wedi craffu ar eu gwywdod; ond, medd y gwinllanydd, yr wyf fi yn rhodio, yn dal sylw ar y methiant; fel y garddwr yn ei ardd, gwelaf y pryf wrth y gwraidd, pan na fyddo crychni i'w weled ar y ddalen. Mae y geiriau yn arwain at yr nyn fu Eglwys Ephesus, ac at ei hagwedd y pryd hwnw: yr oedd yn dda, ond yr oedd wedi bod yn well. Sylwn,— Ar y ganmoliaeth a roddir. Canmolir ei gweithgarwch.—"Mi a adwaen dy weithredoedd," &c. Sain na theilynga llawer o eglwysi idd ei glywed, am nad oes ganddynt weithredoedd. Mae yn ffaith alarus fod llawer o eglwysi ein gwlad, a dybir gan ddynion yn gyf- rifol, heb weithredoedd; rhifant ganoedd yn eu cymundeb, ond nid oes ganddynt weithredoedd; ymffrostiant yn eu cyfoeth a'u dylanwad, ond nid oes ganddynt weithredoedd; cynhaliant y weinidogaeth leol yn rhyw fodd; cadwant y drysau yn Ued agored, ac ychydig oleu yn y llusernau, ond nid oes ganddynt weithredoedd a deilyngant ganmoliaeth yr hwn sydd yn dal y saith seren!!! Mae miliynau daear yn marw o eisieu gwybodaeth; mae y miloedd yn eu drysau yn ymddyrysu mewn tywyllwch moesol, ac yn wynebu ar drueni bythol, tra maent hwy yn gofalu am yr 31