Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 21-2.]..............."n^ẄRTH, 1858. [Cyf. XVIII. AMHEUSRWYDD. CYMERWN y pwnc hwn i fyny lle y gadawsom ef yn rhifyn Chwefror. Mae syniad o fodolaeth Duw yn lled gyffredinol yn y byd, gan nad o ba le y mae y fath dyb yn cyfodi. Nid yw y truain rhyfygus ydynt yn heidiau ar hyd trefydd mawrion Lloegr, yn cael ei harwain gan Holyoake a'i gymdeithion, yn beiddio dywedyd nad oes Duw. Addefant nas gallant brofi nad oes y fath Fôd Anfeidrol; ac yr ydym ni o'r farn fod rhyw dyst o fewn y gwaethaf o honynt yn haeru ei fod, ond llindagir ef i ddystawrwydd, eithr nid i farwolaeth. Mae y dyb hon yn deilliaw o weith- rediad rheswm dynol ar waith Duw; ac y mae yn rhaid i ddyn wadu y rhag- dueddiad hwn yn ei feddwl, a gomedd plygu o flaen y deddfau cyffredinol sydd yn llywyddu crediniaeth dynolryw yn mhob oes a gwlad, cyn y gallo wadu bodolaeth yr hwn a'i gwnaeth. Mae yr egluriadau a wneir o Dduw mewn natur, Rhaglun- iaeth, a gras, yn tueddu i dynu allan y syniad tywyll y mae dyn yn ffurfio am berffeithderau naturiol a moesol y Goruchaf i burdeb a grym, ac i ddwyn y dyn i gydweddiad â meddwl ac ewyllys Duw; ac y mae yr Amheugarwch ag sydd yn awr dan ein hystyriaeth yn amlygu ei hun trwy wrthod derbyn yr amlygiadau a wneir o Dduw. Dywedasom fod yr Amheuwr yn ddiffygiol o allu moesol i weled Duw mewn natur. Y mae yn anfoddlon i gael yr amlygiadau hyny ynddi o bresenoldeb Duw ag y mae cyfansoddiad naturiol ein meddwl yn ein harwain ni atynt. Ni fyn briodoli i feddwl ac ewyllys Ddwyfol y bwriadau a'r nertholdeb a ddadguddir i ni yn ein gwaith yn tremio ar waith ei law, nac i dderbyn )*r argraffiad oddiwrth y byd mawr ëang o'i gylch, o amcanion diludd un sydd â'i ewyllys a'i nodwedd yn ffynon o'r hon y tarddodd ac y tardd pob peth. Mae yr Amheugarwch i gredu yn yr amlygiadau sy genym o Dduw, yn amrywio yn eu ffurfiau. Weithiau gwedir bodolaeth Ewyllys Ddwyfol a Deall Anfeidrol yn bendant; bryd arall cedwir y gair Duw yn yr eiryddiaeth, ond ni addefir dim cyfatebol i'r dyb gyffredinol sydd o hono. Caf'odd athronwyr allan fod achosion naturiol i lawer o bethau yn y caeau a'r coedydd, yn yr awyr a'r môr, ag a briodolid, gan ddynion anathronyddol, i ddoethineb a gallu goruwch-naturiol, ac nad oedd y cyfnewidiadau a briodolid i ben-arglwyddiaeth neu fympwy Llywydd cyfnewidiol, ond canlyniadau deddfau sefydlog natur; o ganlyniad, casglasant nad oes meddwl nac ewyllys dan y deddfau hyn, ac awgrymant fod dydd wrth law pan y bydd y dyb ffol a gwrthun o fod- olaeth Duw, neu yr achos cyntaf o bob peth, wedi ei hysgubo ymaith gyda y gwëoedd ereill a lesgäent gamrau athroniaeth yn eithaith i fendithio y byd. Mae y doethwyr ereill, a í'ynant siarad am Dduw dan ei enw, yn alltudio pob tyb o ewyllys a chynllun yn llywyddiad y greadigaeth, ac yn rhoddi yr enw Duw i'r cyfiwr yn yr hwn y mae bodolaeth pob peth yn bosibl, neu yr hyn a alwant natur. Nid yw Duw y Duwollwr (Pantheist) yn byw, yn meddwl,nac yn ewyllysio. Nid oes iddo allu na dylanwad dros y greadigaeth, ac nid yw yn bodoli yn annibynol arni. Y nodd yn y pren, y gwyrddni yn y dail, yr harddwch a'r lliwiau yn y blodau, prydferthwch y meusydd, cadernid y graig, nwyau yr awyr, a thueddiadau greddfoí yr anifail yw. Nid yw yn hyall i'r Duwollwr i adnabod, i addoli, na charu unrhyw oruchelaf. Yr uchaf o bawb yn y bydysawd a ŵyr efe am dano ydyw dyn. Nid oes meddwl llywyddol yn nghyfangorff mawr y greadigaeth, ac nid yw y bydysawd neu Dduw yn hunan-ymwybyddus yn un man ond yn ydyn ; a'r dwyfoldeb uwchaf a \vyr y Duwollwr am dano ydyw yr hyn a ddynoda y Dwyfol yn y natur ddynol. Ni ddylai y rhai a ddaliant y golygiadau hyn wneud defnydd o'r enw Duto, gan eu bod yn golygu rhywbeth hollol wahanol i'r hyn a feddylir yn gyffredin; ac nid yw amgen na thwyll beius iawn i ddefnyddio gair a fyddo yn debyg o daflu ereill 10