Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWE. Rhif. 227.] MEHEFIN, 1854. LCyf. XX JESÜITIAETH. Y Fbirniadaeth.—Derbyniais dri thraethawd ar y tMtyn uchod ; sef eiddo Sanitator, Xenophon; a Philo-Pascal. Nid wyf yn cymeryd arnaf ysgrifenu beirniadaeth fanol arnynt, ond yn unig dadgan fy marn am eu teilyngdod. Y mae cyfansoddiad Sanitator yn dra chywir ò ran iaith, ond yn rhy wasgaredig. Y mae bron ei haner yn fath o raglith ar egwyddorion Criitionogaeth. Er fod Xenophon yn ysgrifenu yn dlws, ceir yn ei draethawd amry w fân wallau ieithyddol, yn profi y dylai dalu mwy o sylw i'r Gyraraeg. Disgyn ar y testyn yn egnio!, a darlunia godiad ao egwyddorion Jesuitiaeth yn fedrus. Nid y w yn ddigon helaeth a ehynhyrfus yn y rhan olaf o'i draethawd. Er nad wyf yn barod i sicrhau cywirdeb holl osodiadau Philo-Bascal, nac i gymeradwyo yr oll o'i gyfansoddiad, yr wyf yu barnu mai hwn yw y gorau. Abcraron, Mai 3, 1854. Edwaed R0BEET8. Pan sefydlwyd Cristionogaeth gan Grist a'i apostolion, ymddangosaì yn brydferth fel cyfundrefn o egwyddorion goruchel, a chariai ddylanwad iachusol ar gymdei- thas mewn gweithrediad ; ond bob yn ronyn llwythwyd hi âthraddodiadau y tadau, cydwëwyd â hi ddeddfau gwladol, nes i'w nerth cynhenid golli, a'i harddwch cynt- efig gilio; o'r braidd y gallesid ei hadnabod. Drwy y Canol Oesau yr oedd Crist- ionogaeth fel brenines mewn caethiwed, a Rhufain Babaidd yn ben. Nid digon cyfenwau Dante, i osod allan hagrwch y butain fawr; yr oedd yn fagwrfa cyfeiliornad, yn dernl llygredd ac anffyddiaeth, yn nythle digofaint, ac yn ffynonell ddihysbydd poen a gwae. Cadwai ddynoliaeth mewn caethwasaeth wladol a chrefyddol. Ond pan ydoedd nos dywell y Canol Oesau ar fyned heibio, deffrodd Wycliffe, Huss, Jerome, a Luther gwron y diwygiad, y byd o'i gysgadrwydd, a phregethasant iddo efengyl ein Harglwydd mewn purdeb a nerth. Arllwysai Luther ddiluw o oleuni ar gyfeiliornadau yr Eglwys Rufeinig, nes y gwelid ei hys- gelerder ofnadwy, a'i hannghysonderau erchyíl. Anelai fagnelau gwirionedd at gastellau celwydd a thwyll, nes y syrthient yn ganddryll i'r llawr. Chwalai dwyll- ymresymiadaeth yr Ysgolwyr ystyfnig, a dynoethai eu cyfundraethau tybiantus gerbron y byd. Safai yn dalgryf ar graig gwirionedd tragwyddol, a heriai bleid- wyr y Babaeth i'r maes. Unwaith eto dyma Gristionogaeth apostolaidd yn fyw, a Phabyddiaeth yn gwaedu yn ei hymyl. Adeiladodd Luther gof-golofn dragwyddol iddo eihun ac i'w wlad ; byddeienwyn anwyl trahanesyn bod; enillodd frwydrau pwysicach na Hannibal, nac Alexander, na Nelson, na Ẅellington, â chleddyf yr Ysbryd yn ei law, buddugoliaethodd ar llufain a'i llu. Yn y cyfnod hwn nid oedd Rhufain yn barod i wrthwynebu y Diwygiad; yr oedd ei hoffeiriaid yn anwybodus a diwaith, ei hesgobion yn ariangar a gìwth, ei cholegau yn isel mewn moesau a dysg; ond nid hir y bu cyn casl cyfnerthiad mewn Jesuitiaeth ; yr hon gyfundrefn a sefydlwyd gan Ignatius Loyola, dan yr enw " Societas Jesu," sef Cymdeithas yr Iesu. Felly, gwrthwcnwyn Pabyddawl i'r Diwygiad Protcstanaiddyw Jesuitiaeth. Cyfundrefn ydyw, à'i hamcan yn mhob man i daenu egwyddorion y dyn pechod ; ac nid oes un egwyddor yn rhy werthfawr ganddi ei haberthu, yr un weithred yn rhy fawaidd ganddi gyflawni, er cael ei bwriad i ben: ei harwydd-air yw, fod y dyben yn cyfreithloni y moddion. Yn awr, taflwn olwg fèr ar yrfa y sylfaenydd/ ac ymdrechwn nodi allan deithi ei feddwl, a phrif linellau ei nodweddiad. Yspaenwr oedd o genedl, o dalaeth Guipuscoa. Ganwyd ef yn 1491, yn castell Loyola, oddiwrth yr hwn y cafodd ei enw. Yr oedd o deulu anrhydeddus; dygwyd ef i fyny yn llys Pabyddol Ferdinand ac Isabella, mewn anwybodaeth gwarthus, ac yn nghanol llygredigaethau dychryn- , 'lyd. Sychedai pan yn ieuanc am urddas marchog; ac er bod ei feddwl o duedd 8refyddol, hoffai ryfel-wisgoedd ysblenydd, ac hiraethai am anrhydedd gwrhydri. 21