Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. ^ Îlííív231.] HYDREÎTÍ8547" (_Cyf. 3&Í. DYLANWAD BENYWOD Aft GrîMDEITHAS; iScf Darlith a draddodwyd yn Nyhymdeithas Wylodaethol Rhayadr-Wy. GAN Y PARCH. RHYS GWESYN JONES. Benyw yw ein mam ni ol], ac fel y cyfryw, ganddi hi mae y dylanwad cyntaf, ac yn gyffredin y cryfaf ar ein meddyliau. Eíthaf gwir yw y dywediad, mai y rhai sydd yn siglo y gadair sydd yn llywodraethu y byd; canys y mae dynion yn gyffrcdin y peth y mae eu mamau, eu chwiorydd, a'u gwragedd yn eu gwneuthur. Gwir nad oes gan fsnywod law uniongyrchol yn nygiad yn mlaen amgylchiadau cyhoeddus cymdeithas, eto nid oes dim yn myned yn mlaen hebddynt. Pan fyddom yn darllen tu-dalenau hanesyddiaeth o'r amser y cymerwyd gwraig o ochr pŵr ac ei dygwyd at ein tad Adda er bod yn ymgeledd gymhwys iddo hyd y fynyd bre- senol, cawn weled fod dyn wedi ei arwain a'i lywyddu gan wraig. Pe byddem yn sylwi yn fanwl ar bob gweithred a wnaethdyn er yr amser y cymerodd Efa ac y bwytaodd o ffrwyth y pren gwaharddedig ac y rhoddes i'w gẃr, ac efe a fwytaodd, hyd y weithred ddiwecldaf a wnaed gan ddyn heddyw, caem weled fod benyw â llaw yn rhywle yn mhob gorchwyh Yr ydym yn canfod dylanwad benywod yn holl hanes cenedloedd cyntefig. Benywod oeddent yr achlysur, os nid yr achos o'r rhan fwyaf o'r brwydrau gwaedlyd a ymladdwyd yn y byd. Hyd yn nod yn mhlith cenedloedd anwaraidd yr hen amser ystyrid benyw y trysor penaf, fel yr oedd yn angenrheidiol parotoi y bwa, a thynu y cleddyf yn erbyn pwy bynag a'L niweidiai, neu a'i gwarthruddai. Wrth ddarllen areithiau arweinyddion byddin- oedd, yr ydym yn canfod mai y rhesymau cryfaf a feddent er cyffroi eu milwyr i ymladd oedd dweyd fod eu gwragedd a'u plant yn debyg o fyned yn gaethion. Dywed Tacitus, yr hanesydd Rhufeinig, nad oedd dim yo effeithio gymaint ar y Celtiaid neu y Cymry, ein henafiaid yn Mhrydain, Ffrainc, a Germani, a'r dybiaeth fod eu gwragedd a'u merched yn debyg o fyned yn gaethion. Ac yn hytrach nag i hyn gymeryd lle, yr oeddynt yn barod i wynebu pob math o berygl. Byddent yn aml yn gosod y gwragedd a'r plant yn agos i'r gwersyll, fel y byddai i'w sẃn gynhyrfu y miíwyr i ymladd yn fwy gwrol. Diau nad yw dylanwad gwraig ar genedloedd, a'r rhan fawr mae wedi gymeryd er ffurfio tynged cenedlaethau erioed wedi ei ystyried yn briodol, ac y mae rhan fawr o'r defnyddiau angenrheidiol at hyn yn awr wedi myned ar goll. Ond ar yr un pryd mae genym rai nodiadau a wasanaethant fel llinyn i'n harwain trwy y gorchwyl o ddangos fod dylanwad benyw yn fawr ar gymdeithas, ac am hyny íbd yn angenrheidiol iddi gael ei hadd- ysgu er ei galluogi i lenwi y cylch pwysig o wraig a mam. Mae pawb a ddarllen- ant y liibl yn gwybod, a phe buasem heb ei ddarllen, yr ydym yn gwybod drwy brofiad chwerw, beth fu dylanwad y wraig gyntaf pan gymerodd o ffrwyth y pren gwaharddedig. ac y rhoddes i'w gŵr hefyd : gwnaeth Adda a'i holl had yn bech- aduriaid truenus, a daeth gofid ac angau i raewn ar ol pechod. Nid oedd y Cyn- ddiluwiaid yn rhydd oddiwrth ddylanwad merched. Darfu i feibion Duw, sef hil- logaeth Seth, hoffì merched Cain i'r fath raddau, fel er cu mwyny rhoisant eu hun- am i fyny i gyflawni pob pechod yn un chwant, yr hyn a ddug arnynt ddwfr y diluw. Yr oedd Abraham, tad y ffyddloniaid, i raddau helaeth iawn dan ddylan- wad menywaid. Buont yn achos llawer o ofid, yn gystal ag yn foddion llawer o gysur iddo. Dan ddylanwad gwraig gwelwn yrhwn oedd yn ddigon cryf ei ffydd i gredu yn erbyn gobaith, ac offrymu ei unig-anedig fab Isaac yn boeth:offrwm, er }' gwyddai mai yn hwn yn unig y gelwid iddo had ; eto dan ddylanwad gwraig 31