Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 244.] TACHWEDD, 1855. (.Gvf. XX. CRISTIONOGAETH A RHYFEL- Y Feirniadaeth.—Derbyniwyd tri Thraethawd. Y gorau ar y cwbl, feddyliwn, yw eiddo Artabanes. Y mae ygo-rif Anah yn un deilwng hefyd, teilwng i'w hargraffu, teilwng o sylw Cymdeithas yr Iieddwch. Nid yw un o honynt yn rhydd o wall- au ysgrifeniadol neu sülafoì. %* Byddai ynfantais iddynthwy, yn gystal agi lawer ereill, gymeryd hyffordd- iadau gan ryw un medrus ar y geìfyddyd o ysgrifenu. Glandwr. J. Daties. Mae Cristionogaeth yn hen ; mae rhyfel yn henach. Mae crefydd yn henach na phob un o honynt. Braidd y bu rhyfel erioed ar nad oedd a fynai â chrefydd, neu grefydd âg ef. _Ac wedi dyfodiad Cristionogaeth i'r byd, braidd y bu rhyfel heb fod a fynai Cristionogaeth ag yntau â'u gilydd. Agos bob rhyfel y mae hanes am dano, os nad oedd dros grefydd, yr oedd yn enw, a than nawdd crefydd, a Duw, neu'r duwiau. Ac nid rhyfedd. Ni allasem ddysgwyl dim yn amgen ; oblegid y mae dyn—y mae'r byd erioed mor grefyddgar ag ywo ryfelgar. Mae holl gref- yddau y byd erioed, a holl grefyddau y byd yn awr, oddieithr Cristionogaeth, dros ryfel,yn noddi rhyfel, ac â chanddynt dduwiau rhyfel. Ië, hyd yn nod y crefydd- au hyny a gymerant arnynt mai y gwir Dduw yw eu Duw, a'i gwnant ef yn Dduw rhyfel. Ac hyd yn hyn, y mae'r gwledydd a'r teyrnasoedd a alwant eu hunain yn .Gristionogion, braidd olì, yn ei wneuthur ef yn Dduw rhyfel; ac yn gwneud i Gristionogaeth bleidio a noddi rhyfel, er cymaint yr anghyd-darawiad sydd rhyng- ddynt. • Mae yr anghyd-darawiad sydd rhyngddynt yn amlwg, wrth ystyried eu hawdwyr, eu hamcanion, a'u heffeithiau; ac wedi ystyried hyny yn briodol daw yr ystyriaeth o'u harweddiadau ar eu gilydd. Awdwr Cristionogaeth yw Duw. Efe yw ei chynlluniwr yn Nghrist Iesu cyn dechreu'r byd; Efe yw palmentwr ffordd ei dygiad i'r byd; Efe, pan ddaeth cyf- lawnder yr amser, a'í dygodd i'r byd; ac Efe a'i llwyddodd, ac sydd eto yn ei llwyddo yn y byd. Ac nid galluog neb llai. Ond awdwr rhyfel yw Satan. Pwy ond efe oedd yr ysbryd celwyddog yn ngenau y proffwydi i dwyllo Ahab i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead ? Ac efe eto sy'n twyllo cenedloedd y ddaear, ac yn eu cas- glu hwy ynghyd i ryfel, o rifediyn aneirif, fel y tywod sydd ar fin y môr. A dan* gosir i ni y cosbir ef feí awdwr rhyfel. Bwrir ef i'r Uyn sydd yn llosgi â thàn ac â brwmstan ; ac fe'i poenir ddydd a nos yn dragywydd. Ond er mai efe yw awdwr rhyfel, ac nad yw Duw awdwr anghydfod, ond tangnefedd, eto, dangosir i ni mai efe sydd yn gollwng Satan allan o'i garchar. Ac y mae yr oll y mae Satan, fel yw fwy yn awdwr rhyfel am ei fod yn ei oddef, nag y mae yn awdwr pechod am ìddo oddef ei ddyfodiad i'r byd. Nid oes ddrwg naturiol na moesol yn hyn o fyd, ond drwy oddefiad Duw. Fel am roi llythyr ysgar yn cael ei oddef o herwydd caledrwydd calon, yrhyn nid oedd o'r dechreuad; felly am ryfel. Goddefwyd, îe, gorchymynwyd ef dan yr oruchwyliaeth gyntaf; o herwydd, ac er mwyn pethau nad Oes yn awr a fynom â hwynt. Amcan Cristionogaeth yw diwreiddio o'r byd unig achos rhyfel—dybenu cam- wedd—datod gweithredoedd diafol—llwyr-adferu heddwch—cymodi dynion â Duw.acfelly, o angenrheidrwydd, â'u gilydd. Gwneud i ryfeloedd beidió* hyd eithaf y ddaear. Mewn iaith ffigvrol, gwneud i'r blaidd drigo gyda'r oen, ac i'r 42 »