Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Rhif. 268.] TACHWEDD, 1857. [Cyr. XXIL PREGETHTJ ESBONIADOL. GAN Y DIWEDDAR BARCH. E. DAVIES, ABERHONDDU Darlithinu Esboniadol ar yr Epistol at y Gaîatiaid, gan Dr. John Browîí, Athraw Duwinyddiaeth Esboniadol yn Athrofa yr Henadurìaid Ymncilldml yn yr Ysgotland, 1853. NlD oes dim o fevra cylch gweithrediadau dynoliaeth o fwy ei bwys na phregethu. Mae hwn wedi bod, er daneu er drwg, yn un o'r pethau penaf yn y byd. Mae'n annhraethol bwysig fod iawn olygiadau ar hyn yn ífynu, a bod y gorchwyl o bregethu wedi ei seilio ar egwyddonon dwyfol ac ysgrythyrol. Ordinhad arbenig o eiddo Duwydyw pregethu, ac o ganlyniad, y mae ein syniadau yn ei gylch i'w cymeryd yn ofalus ac yn gydwybodol oddiwrth y Gair santaidd. Nid dyfais ydyw o eiddo dyn, ac nid peth ydyw i'w ddwyn yn mlaen yn ol golygiadau dynol, ond mor bell ag y byddo y golygiadau hyny yn gydfynedol â'r rheol ddwyfol. Mae'r gair am bregethu yn y Groeg, cerusso, ac am bregethwr, cerucs, yn arwyddo cyhoeddi, a chyhoeddicr; gwneuthur peth yn gyhoeddus. Mae'r gair am bregethwr yn arwyddo un fyddo wedi ei ddanfon gan frenin, neu uchel-awdurdodaxi i gy- hoeddi amodau heddwch i'r blaid wrthwynebol, i ddatgan neu hysbysu ewyllys neu benderfyniadau y naill lywodraeth i lywodraeth aralí. Nid peth i'w gelu ydyw'r efengyl, ond i'w gyhoeddi yn ngwydd pawb. Cyhoeddwr ewyllys Duw, a threfn iechydwriaeth ydyw pregethwr—un ydyw ag y mae yn rhaid iddo gyfodi ei lef, ac nid arbed—dyrchafu ei lais fel udgorn—mynegu i'r bobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Jacob. I'r dyben i ddysgu dynion i fywyd tragwyddol, y mae'n rhaîd i wirioneddau yr hysbysu dirgeledigaethau yr nodedig yn bregethu. Y mae gosodiad ac angenrheidrwydd pregethu yn cyfodi oddiar ddiffygion a chyfansoddiad dyn, ae y mae'n brawf o ddwyfol ddoethineb i fod y pethau hyny ag y mae ar ddyn fwyaf o angen am danynt yn cael eu gwneuthur yn adnabyddus iddo trwy gyfryngwriaeth. Iaith lafaredis yw'r dull mwyaf cyfleus ac effeithiol i ddysgu dynion; " Haiarn a hoga haiarn. felly dyn, wyneb ei gyfaill." " Fel hyn y mae " Ffydd yn dyfod trwy glywed, a chlywed trwy air Duw." Y mae Duw wedi rhoi ei Air nid yn unig i'w ddarllen, ond hefyd i'w wrando, ac wedi donio dynion o'i anfoniad ei hun i draddodi'r gair hwn, â'i egluro yn nghlywedigaeth y bobl. v dywedyd mai hon yw y prif ddyehwelyd ac i achub plant dynion. Yn ol fel ag y mae pregethu, yn wael neu yn werthfawr yn ein golwg ni, y mae achos crefydd yn cynyddu neu yn ddigynydd— yn uchel neu yn isel—mewn parch neu anmharch. "The pulpit," fmedd yr annghymarol Cowper,) " Must stand acknowledged while the world shall stand, The most important and effectual guard, Support, and ornament of Tirtue'scause."