Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Bhjf. 321.] MEHEFIN, 1862. [Cra. XXYn. « Y FFIEIDD-Dfti iNCHYFMEDDÖL YN Y LLE SiNTiIDD." GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, HIEWAEN. " A pherchwch fy nghysegr."—Lev. xix. 3. " Santeiddrwydd a weddai i'th dy, O Arglwydd, byth."—Salm xciii. 5. " Na wnewch dy fy Nhad I yn dy marchnad."—Ioan ii. 16. Caiff esboniad Mr. Barnes egluro peniad cyntaf ein hysgrif, sef mai wrth y ffieidd-dra anghyfaneddol y meddylir y byddinoedd Bhufeinig. Gelwir hwy felly ar gyfrif eu bod yn dwyn darluniau o'r ymherawdwr, ac o eryr- od, o flaen eu llengoedd, ac yn rhoddi anrhydedd dwyfol iddynt. Dywed Josephus i'r Rhufeiniaid, pan gynierasant ddinas Jerusalem, ddwyn eu heilunod i'r deml, a'u gosod ar gyfer y porth dwyreiniol, ac aberthu iddynt yno. Dyna, mae yn debyg, oedd "y ffieidd-dra anghyfaneddol yn y lle santaidd." Ein gorchwyl y waith hon yw ceisio profi i'r darllenydd fod cysegrwydd yn perthyn i'n haddoldai, a defosiwn yn perthyn i ddwyfol addoliád, lle bynag ei cynelir. Yr ydym yn defnyddio y gair defosiwn i ddynodi agwedd, ystum, a dullwedd Cristionogion yn eu haddoliadau crefyddol, gan gymer- yd i fewn eu holl ymddygiad yn y gwasanaeth dwyfol. Defhyddiwn y gair cysegrwydd i olygu fod y ty, neu y lle yr addolir yr Arglwydd, wedi ei bwrcasu, ei adeiladu, a'i neillduo at addoli yr Arglwydd yn unig, ac i addjrsgu ein gilydd yn ei air santaidd. Tebyg nad oes genym ddim gwell dangosiad o'r dyn oddimewn, nag ydyw y dyn oddiallan. Dilys y gellir ffurfio dyn oddiallan heb ei fod yn ddarlun cywir o'r dyn mewnol; ac fe wneir hyn ar adegau a than amgylchiadau gan y dynion goreu. Pan fyddo dynion yn gwisgo agwedd ddifrifol mewn addoliad, ystyriant eu bod yn efelychu y dyn mewnol pan dan ddylanwad dwyfol. Gwell myned i ffurf y dyn duwiol pan heb ei ysbryd, na gwisgo frurf yr annuwiol yn ein cysegrleoedd. Mae gwahanol foddau trwy ba rai mae dynion yji dangos eu parch i'r Goruchaf; sef, trwy ei wneud yn wrthddrych cyson eu hys- tyriaeth—dal cymundeb agos ag ef yn eu myfyrdodau a'u gweddiau dir- gelaidd—trwy neillduo amserau a Ueoedd i'w addoli yn gymdeithasol, megys hwyr a bore yn eu teuluoedd, a thrwy ymgynull yn gynulleidfaol yn yr addoldai—a thrwy arfer pob moddion cyfreithlon i enill ereiü i barchu ac ofni Duw. Mae gan bobl yr Arglwydd yn mhob oes a chenedl- aeth eu dyddiau santaidd, eu swyddi santaidd, a'u lleoedd santaidd. Ys- tyriwn fod y pethau hyn yn ol ewyllys Duw, ac i fod mewn ymarferiad gan ei bobl hyd ddiwedd y byd. Cawn edrych ar ddau eithafoedd y rhedir iddynt gan yr eglwysi a gyf- enwant eu hunain yn Uristionogol. Gan un dosbarth y rhoddir pwys annyladwy ar bethau oddifaes. Iiluosogir defodau a gosodiadau creíyädol; 21