Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Ehif. 3â4.] medi, 1862. [Cif. xxvn. ADDYSG YR AELWYD. GAN DEWI MEDI. " Hyffordda blentyn jti mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid yinedy â hi."—Solomon. Mawb ydyw y chwilio sydd yn y byd am wybodaeth. Dyma y nod ag y mae y genedl yn ymdrechu cyrhaedd ato; ac yn wir y mae yn werth i Dawb ymdrechu er cyrhaedd gwybodaeth. Y mae gwybodaeth yn dda a dymunol i bob peth; acfeddywed y gwr doeth, "Bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda." "Enaidheb wybodaeth," medd un, "syddyn debyg i dy heb ddodrem ynddo, neu ystorfa heb stor ynddi." Ỳ.mae gwybodaeth yn rhagori yn mhell ynte ar anwybodaeth. Fe'u cymherir weithiau yn yr ysgrythyrau i oleuni a thywyllwch; ac fe wyr pawb faint mae y blaenaf a nodwyd yn rhagori ar yr olaf. Y dydd ydyw yr adeg i weithio, a'r nos ydyw yr adeg i orphwys; y dydd y mae holl anian i gyd yn gwenu o'n deutu; Dore y dydd y mae yr adar bach yn pyncio eu mawl i Dduw ; y nos y mae'r ystlumod yn ehedeg uwch ein penau; y nos y mae y ddylluan allan yn hel ei hymborth, a'i hysgrechiadau erchyll braidd yn ddychryû cymydogaeth o ddynion ; y nos y mae y lleidr allan ar ei eithaf, yn gwylio tai dynion tylodion, &c. Ond am wybodaeth, y mae hon fel yr haul mawr— "A'i wrid yn ymlid y nos O'i ddorau yn ddiaros." A pha fwyaf o wybodaeth fyddwn yn feddu, mwyaf i gyd o fwyniant fydd- wn ni hefyd yn feddianu ar ein taith drwy y byd hwn. O bob amser, tymhor ieuenctyd yw y goreu er cyrhaedd gwybodaeth; a'r modd goreu er cynyddu mewn gwybodaeth ydyw, bod yn ddiwyd a llafurus i addysgu ereill. Dysg y dyn fwy wrth ddysgu ereill nag mewn un? ffordd arall. Dywed Solomon, "Bhyw un a wasgar ei dda, ac feifpchwanegir iddo." " Yr enaid hael a frasheir; a'r neb a ddyfrhao a ddyfrheir yntau hefyd." Anü a lluosog ydynt y cynlluniau sydd wedi cael eu hamcanu i'r dyben o dderchafu moes, a lledaenu gwybodaeth yn mysg ein cenedl. Llawer o sefydliadau sydd wedi cael eu creu, a gwahanol gymdeithasau wedi eu sefydlu, a gwahanol ysgolion a cholegau wedi cael eu hadeiladu i'r dyben yma. Yr ysgol Sabbathol, hynyma ydyw ei phrif amcan. Sefydliad arall a allwn nodi ydyw y ddarllenfa. Y mae y rhai hyn yn aml iawn yn y dyddiau hyn; íiid oes braidd un gymydogaeth yn y Dywysogaeth nad oes rhyw fath o lyfrgell yn perthyn iddi. Moddion araíl ydyw y papyrau ^ewyddion, wythnosol a misol, &c.; dyma yn wir ydyw amcan y rhai hyn. Hefyd y mae amryw o gymdeìthasau pwysig wedi eu sefydlu i'r dyben 33