Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. Riiif. 357.] MEHEFIN, 1865. [Cn?. XXX. Y CYFARFODYDD WYTHNOSOL GAN Y PARCH. WILLIAM THOMAS, WHITLAND. Nid yw Duw mewn un oes wedi bod heb le penodol i gyfarfod ei anwyl- iaid. Cyfarfyddai felly a'i bobl yn amser Moses. Ex. xxxiii. 7, "A Moses a gymerodd y babell, ac a'i lledodd o'r tu allan i'r gwersyll, yn mhell oddiwrth y gwersyll; ac a'i galwodd, Pabell y cyfarfod: a phob un a geisiai yr Arglwydd a ai allan i oabell y cyfarfod, yr hon ydoedd o'r tu allan i'r gwersyll." Gwyddai Moses y buasai pob un awyddus i gym- deithasu â Duw yn sicr o fyned i'r babell, er ei bod tu allan i'r gwersyll. Y mae ychydig bellder oddiwrth addoldy yn amlygu bychandra teimlad crefyddol yn fynych iawn. Nid yw dynion o dduwioldeb mawr yn meddwl cymaint am feithder y ífordd. Ant yn llawen i'r man y gwyddant y cant gyfarfod " â'r hwn a hoffa eu henaid." Yr oedd Solomon yn ei weddi ddydd agoriad y deml yn gosod pwys mawr ar i Dduw wrando y gweddiau gyrhaeddasai ei glustiau " o'r ty hwnw" Cawn gyfeiriadau aml yn llyfr y Salmau at dy Dduw. Y fatli fan cysegredig oedd yn ngolwg y Salm- ydd ! " Arglwydd, pwy a drig yn dy babell'? pwy a breswylia yn niyn- ydd dy santeiddrwydd ? pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd ? a phwy a saif yn ei le santaidd ef ? Un peth a ddeisyfais I gan yr Arglwydd, hyny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhy yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ, yn wastad y'th folianant. Dewiswn gadw drws yn nhy fy Nuw, o flaen trigo yn mhebyll annuwioldeb." Allasai y Salmydd ddim cael nerth a hyfrydwch cysegr Duw heb fod ynddo ar adegau yr addoliad. Nid wrth eageuluso yr addoliadau y gall neb gael dedwyddwch gwirioneddol. Dywedodd Crist wrth ei ddysgyblion yn Mat. xviii. 20, " Can^s lle mae dau neu dri wedi ymgynull yn fÿ enw I, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." Y mae mwynhad goruchel a sylweddol o bresenoldeb grasol Crist yn gysylltiedig â chynulliadau crefyddol yr eglwys. Y mae pwys mawr mewn ymgynulì, yn hytrach na threulio yr oes yn feudwyol, hunanol, a diog. Bygythiai Duw y bobl gynt, os esgeulusent yr addol- iadau yn Jerusalem, Zech. xiv. 16—19, " A bydd i bob un a adawer o'r holl genedloedd a ddaethant yn erbyn Jerusalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gwyl y pebyll. A phwy bynag nid el i fyDy o deuluoedd y ddaear i Jerusalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd gwlaw arnynt. Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nùi oes gwlaw arnynt; yno y bydd 21