Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. líás. Ehif .^0.] MEDI, 1865. [Cyt. XXX. HDNAN-ADNABYDDIAETH. GAN MR. DANIEL JONES, ATHROFA ABEBHONDDU. Mae pren gwybodaeth erbyn yn bresenol wedi tyfu i fod yn bren mawr; mae ei wreiddiau wedi ymledu dros yr holl ddaear, a'i gangau wedi ymes- tyn hyd y nefoedd. Pren prydferth a gwerthfawr iawn yw hwn; mae ei gangau yn lluosog, ei fírwyth yn doreithiog, a'i arogl yn Uadd twyll, gor- mes, ac anghyfiawnder oddiar wyneb y ddaear. Cangau pwysig iawn arno ef ydyw y rhai hyn—daearyddiaeth, morwriaeth, seryddiaeth, physigwr- iaeth,- &c.; ond y mae un gangen ar ei odreu sydd yn fwy pwysig a gwerthfawr nag un o honynt—er fod miloedd o ddynion heb ei gweled na meddwl dim am dani—a hono ydyw hunan-adnabyddiaeth. Mae pob gwybodaeth yn werthfawr i'r graddau y bydd hi q ddefnydd i wrthddrych ei pherchenog. Buddiol fyddai i ni wybod helynt yr holl blanedau fry— eu maintioli, eu hansawdd, eu d^danwad, a'u cylchdroadau, &c.; ond mwy pwysig o lawer i bawb o honom ydyw bod yn gyfarwydd a symudiadau y blaned fechan yr ym ni wedi ein gosod arni, sef y ddaear; o herwydd dyma lle yr ydym yn byw, dyma lle y cafodd ein rhieni cyntaf fodolaeth, a dyma lle y mae-pawb o'r teulu wedi bod yn treulio eu tymhor drwy holl oesoedd y byd. Y mae hanesyddiaeth hon yn bwysig o herwydd ein cysylltiad â hi. Drachefn, byddai yn dda i ni allu bod yn gyfarwydd a hane» yr holl wahanol wledydd a theyrnasoedd sydd yn y byd; ond try yn fwy o les i ni, os na aljwn wybod y cwbl, i wybod hanes ein gwlad a'n teyrnas ni ein hunain na neb o honynt, a hyny o herwydd ein perthynas â hwynt. Hefyd, byddai yn hyfrydwch i ni i wybod am y gwahanol gen- edloedd sydd ar wyneb y ddaear—am eu dechreuad, am eu cynydd, am eu hiaith, am eu harferion, &c.; ond dedwyddach o lawer fyddwn ar ol gwy- bod hanes ein cenedl ein hunain na neb o honynt—o herwydd pa genedi mór wrol, mor dwymgalon, ac mor barod i wneud daioni a hon ? a pha genedl fedr ddangos talentau mwy, iaith gryfach, cynyrchion gw^l, ac arferion rhagorach na hon ? Y mae ar ei phen ei hun yn y pethau hyn. Dymunol iawn gan bob dyn hefyd fyddai gwybod ychydig o hanes pob teulu, a phob person sydd yn perthyn i'w genedl—fel os yn dylaẅd y gallai eu cynorthwyo, ac os yn gystuddiol y gallai gydymdeimlo a hwynt. nd nid yw hyn yn bosibl; a phe byddai yn bosibl, y mae peth mwy pwysig o lawer yn dal cysylltiad a ni, sef adnabod ein teuluoedd a'n per- sonau ein hunain. i{ 0 ddyn, adûebydd dy hun." 34