Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1868. DYSGER Y GENEDL IEUANC. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, HIRWAEN. Nid oes braidd yr un mater wedi cael mwy o sylw trigolion y wlad hon yn y blynyddoedd diweddaf nag addysg y genedl ieuanc; a dylid cadw yr achos hwn ar bob cyfrif o flaen llygaid y cyhoedd yn gyson a pharhaus, oblegyd yr ydym yn gweled canoedd o'n cwmpas yn tyfu i fyny yn an- Uythyrenog. Er cymaint a ddywedwyd, ac a ddywedir, y mae y ffaith. alarus yma i'w gweled yn mhob arda). Mae y cyffroad mawr fu yn nghylch addysg wedi effeithio yn dda. Mae yr ysgolion dyddiol wedi lluosogi yn helaeth, a gwerth addysg wed^ cael ei deirnlo yn llawer mwy cyffredinol. Eto, mae rhyw rai yn mjfjbb cymydogaeth yn gwbl ddifraw ac esgeulus o addysg eu plant. Hoff^i i'r ychydig linellau hyn i gyffroi meddwl ein darllenwyr i siarad a dadleu dros yr achos hwn, a rhoddi pob dylanwad a feddant o'i blaid. Nyni a gymerwn olwg fer ar gymeriad a sefyllfa dyn yn y plentyn fel gwrthddrych galluog o addysg. Mae dyn yn dyfod i'r byd heb wybodaeth, fel y dywed Job, " Er geni dyn fel ebol llwdn asyn wyllt." Mae efe megys p^pyr heb ddim ysgrifen arno, neu gist {box) heb ddim ynddo. Ond er hyny yn gwbl addas i roddi pethau ynddo, ac ysgrifenu pethau arno. Feìly mae pob dyn pan yn dyfod i'r byd yn meddu cymhwysderau i dderbyn addysg. Mae cymhwysderau plant djmion yn amrywio gyda golwg ar eu gallu- oedd, maintioli, a graddau eu cynydd, o ran eu cyrff a'u meddyliau. Y maent fel prenau y coed, y rhai sydd yn gwahaniaethu yn eu praffder, eu huchder, a hyd eu cangenau. Gwelir y gwahaniaeth yma yn nghyrff a meddyliau dynion. Mae tyfìant ambell bren yn gyflymach na'r lleill; felly mae dynion yn gorfforol a meddyliol yn blaenori ar eu gilydd. Nid yr un faint yw pob papyr-len. Gellir ysgrifenu mwy ar y babyr-len fawr na'r un fechan. Mae y pren mawr, praff, uchel, yn tynu mwy o sylw na'r un llai. Felly mae dynion mawr yn enill mwy o sylw, ac yn meddu mwy o ddylanwad, ac yn dyfod yn fwy poblogaidd na dynion llai. Peth arall a welir wrth sylwi mai nid yn yr un dawn mae pob un yri. rhagori. Nid yr un gallu neu gyneddf sydd yn blaenori yn mhob meddwl. Y cof yw y gallu arweiniol yn un meddwl. Godidawgrwydd ymadrodd a llais peraidd sydd yn hynodi y llall. Doethineb i ddyfeisio a chyfarwyddo fydd yn y llall. Dawn canu rhagorol fydd gan un arall. Cyfrifwr hynod fydd un arall. Mae pob dyn yn dyfod yn fuan yn ymwybodol o'i allu ar- weiniol, a theimla gymhelliad cryf at ei wrtçithio. Mae pob dyn wedi 45