Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1870. CREFYDD YSBEYDOL. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, HIRWAEN. Mae gwir grefydd yn hawlio ein sylw a'n hystyriaeth gyson a pharhaus. Dylid rhoddi lle iddi yn ein cynulliadau a'n cyfarfodydd cyhoeddus. Cael gafael ar grefydd ysbrydol ddylai fod prif amcan ein holl gyfìawn- iadau a'n hymdrechion. Dylem ar bob cyfrif geisio ymdderchafu yn fwy i'r ysbrydol. Yr ydym yn teimlo ein bod, fel pobl grefyddol, yn suddo yn rhy ddwfn i'r daearol a'r anianol. Ceisiwn ddangos yn gyntaf yr *angenrheidrwydd am grefydd ysbiydol, a rhoddi rhai cyfarwyddiadau i lafurio am dani, a chymhellion i bawb i gymeryd gafael arni mewn pryd. 1. Ỳr angenrheidrwydd am grefydd yshrydol. Mae crefyddau tymhorol i'w cael; maent hwy yn terfynu gydag oes eu deiliaid : mae eu defodau a'u traddodiadau yn cyfnewid ac yn terfynu. Ond mae y grefydd ysbrydol yn beth diddiwedd ; Duw, yr hwn sydd ysbryd, yw ei gwrthddrych. Mae y dyn sydd ganddo grefydd ysbrydol yn credu fod Duw, a'i íod yn wobr- wywri'r rhai sydd yn ei geisio ; mae ganddo ffydd yn yr anweledig. Mae Duw yn llywodraethu yn ei galon ef; mae ofn Duw gerbron ei lygaid ef; mae holl briodoleddau Duw yn cael lle parchus yn ei feddwl; mae Crist, yr hwn sydd yn awr yn y nefoedd, yn trigo trwy ffydd yn ei galon ef; mae y pethau a lefarodd Crist, yr esiampl a roddodd, a'r gwaith a gyfìawnodd, yn bethau ei fyfyrdod ef. Mae yr Ysbryd GUân yn ei ddy- lanwad argyhoeddiadol, cysurol, a santeiddiol, yn preswylio yn y dyn duwiol. Dyna paham y gelwir y Cristion yn deml Duw, ac y dywedir fod Ysbryd Duw yn trigo ynddo. Mae crefydd ysbrydol yn angenrheidiol i wneud Cristionogion o honom, ac i'n galluogi i weithredu yr ysbryd Cristionogol, ac i fyfyrio y cymeriad Cristionogol. Nis gallwn weithio boneddigeiddrwydd Cristionogol heb fod yr ysbryd hwnw ynom. Nis gellir derbyn yr Iesu heb dderbyn ei ysbryd, a gweithredu ffydd ynddo. Mae ein cymeriad ni i gael ei ffurfio wrth ei gymeriad ef; sef, trwy gadw ei orchymynion, a rhodio yn ©1 ei esiampl; yr ydym i fyfyrio ei faddeugarwch, ei gariad, a'i haelion% ei burdeb a'i hunan-ymwadiad, ei gydymdeimlad â phechaduriaid, a'i ffydd- londeb, yn nghyd â'i ddyoddefaint a'i farwolaeth drosom. Mae crefydd ysbrydol yn angenrheidiol i'n gwneud yn sefydlog a phen- derfynol mewn crefydd, ac i'w chymhell yn ddifrifol ar ereill. Tra byddom