Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1870. {A Draddodwyd Mawrth laf} 1870.) GAN Y PARCH. J. LEWIS, HENLLAN. Frodyr,—Pe gofynid genyf am frawddeg a fyddai yn cynwys " llawer mewn ychj'dig " ö awgrymiadau gwerthfawr i fyfyrwyr, cyfeiriwn at y frawddeg hono a briodolir i un o seith ddoethion Groeg—" Adnebydd dy hun." Llanwyd cydwladwyr y doethawr* a'r fath edmygedd o ddoeth- ineb yr ymadrodd, fel y penderfynasant mainid o hono ei hun y llefarodd, ond mai pelydryn ysbrydoliaeth oddiwrth dduw doethineb a ìewyrchodd ar ei feddwl. Dan ddylanwad y cyfryw syniad argraífasant y frawddeg, "yv(odi ffeavrov" (gnothi seauton), "Adnebydd dy hun," mewn llythyrenau aur ar^borth teml Apollo, yn Delphi. Nid oedd eu hedmygedd o hono yn anmhriodol. Teilwng ydyw i gael ei hargraffu ar ragorach teml—ar galon yr efrydydd Cristionogol—yr hon sydd deml i'r Ysbryd Glan. Anwyl frodyr, dymunwn i Ysbryd yr Ar- glwydd ei hargraffu yn ddwfn ar eich cof ac ar eich calon. Ymgynyg tri meddylddrych i mi, ac ymdrechaf eu dadblygu. Y prif feddyliau sydd yn oblygedig yn y frawddeg, yw y cyntaf. Yr ail—y manteù- ion a ddeülia i'r efrydydd Cristionogàl oddiwrth y cyfryw hunan-adnalydd- iaeth—y manteision presenol yn yr athrofa, a'r manteision dyfodol yn y weinidogaeth. A'r olaf—ychydig gyfarwyddiadau tuag at gyrhaedd y wybodaeth oruchel ac ardderchog hon. I. Ymofynwn am yr elfenau sydd yn gynwysedig yn y frawddeg. Mae rhai pethau cyffredinol, y rhai a gyfrifir yn hanfodion dynolìaeth, yn perthyn i bob dyn; a neillduolion, y rhai sydd yn gwahaniaethu y naill ddyn oddiwrth y llall. Cymerir y ddau ddosbartn dan ystyriaeth. 1. Yr elfen gyntaf a gyfeiriwn ati ydyw—cyfansoddiad y meddwl—y galluoedd deallol sydd wedi eu gosod ynddo—terfyngylch gweithrediadau y cyfryw alluoedd, yn nghyd a'r deddfau yn ol pa rai y gweithredant. Angenrheidiol i'r efrydydd yw gwybod eangder terfynau ei alluoedd * Chilon, neu Chilo. 13