Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1871. GAN Y PABCH. W. WILLIAMS, HIRWAEN. Ysbrydoliaeth yw cyfarwyddyd Dwyfol, neu waith Ysbryd Duw yn cynhyrfu meddyliau dynion i lefaru gwirioneddau nad oeddent yn ad- nabyddus o'r blaen ; neu ddylanwad Duw dros feddwl creadur rhesymol i hysbysu pethau oeddynt uwchlaw gallu a gwybodaeth dyn i'w cael allan mewn ffordd naturiol. Wrth ysbrydolrwydd yr Ysgrythyrau, y deallwn fod yr ysgrifenwyr santaidd pan yn cyfansoddi eu gweithion, dan ddylanwad yr Ỳsbryd Glan mor gyflawn ac uniongyrchol, fel y gallesid dyweyd mai meddyliau Duw oeddent yn lefaru. Nid yn unig yr oeddent yn llefaru yn enw Duw ond hefyd trwy ei awdurdod. Mae ychydig wahaniaeth rhwng y ddau syniad crybwylledig, ond mae y ddau yn golygu mai Duw yw awdwr y Dadguddiad Dwyfol. Mae y cyntaf yn dyogelu yr Ysgrythyr oddiwrth bob cyfeiliornad o ran y materion a lefarwyd, a'r dull o'u traethu. Caniateir yn gyffredin fod yr Ysgrythyrau wedi eu hysgrifenu trwy ysbryd- oliaeth Duw. Mae y meddyliau aruchel sydd ynddynt, megys ysbrydol- rwydd ac arucheledd eu hamcan, mawredd a symlrwydd eu dullwedd, tegwch ac uniondeb yr ysgrifenwyr, cysondeb a chyd-darawiad eu gwahanoì ranau, eu heffeithiau rhyfeddol ar gydwybodau a chymeriad eu derbyn- wyr yn mhob oes a gwlad—mae eu parhad a'u dyogelwch drwy gynifer o chwyldroadau, lluosogrwydd y gwyrthiau gyflawnwyd er cadarnhau dwyfoldeb eu gwirioneddau, yn nghyd a chyflawniad cynifer o broffwyd- oliaethau, yn ddigonol i brofi dwyfoldeb eu tystiolaethau. Mae ysbryd- oliaeth yr Hen Destament yn cael ei gadarnhau gan Grist a'i apostolion, ond nid ydym yn gweled ysbrydolrwydd y pedair efengyl yn cael ei osod i lawr yn ffurfiedig felly, ac mae rhai beiruiaid o amheuwyr wedi cymeryd mantais ar hyn i wadu ysbrydolrwydd y pedair efengyl. Oud mae ym- adroddion Crist ei hun, a thystiolaeth yr apostolion am dano, yn brofion diymwad o ysbrydolrwydd yr efengylau. Fel hyn y dywedloan, pen. i 18, "Ni welodd neb Dduw erioed, yr unig anedig Fab, yr hwn sydd yn mynwesyTad, hwnw a'i hysbysodd ef." "Myfi a'r Tad un ydym." I^yna ddigon i benderfynu ysbrydolrwydd ymadroddion Crist. Mae y