Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWE. EBRILL, 1871. ^ẁMìrẃ g êctmìŵri, |prMMr % feẁtfit it GAN Y PARCH. J. DAYIES, GLANDWR. <: Eich tadau, pa le y maent hwy ? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth? Er hyny fy ngeiriau a'm deddfau y rhai a orchvmynais i'tn gweision y proffwydi: oni oddiweddasant eich tadau ?'V_ZecA. i. 5, 6. Y mae Duw yn fod rhesymol, a'r mwyaf rhesymol o bawb. Fel y cyfryw y mae ganddo ei feddyliau a'i fwriadau. Llawer o'r bwriadau hyn a geidw iddo ei hun heb eu dadguddio. Y mae ganddo fwriadau ereill i'w dadguddio a'u mynegu. Y mae ganddo ei resymau priodol dros gadw rhai iddo ei hun, a'i resymau dros wneuthur y lleill yn adnabyddus i'r byd. I'r pwrpas hwn gwnaeth ddarparu cenadon cymhwys. Pa foddion neu gyfryngau anmhriodol neu annigonol a wna efe ddarparu at unrhyw waith ? Dim un mewn unrhyw amgylchiad. Gwna y cenadon farw. Y maent yn gorfod myned o dan yr un dynged a'r lleill o ddynolryw. Nis gallant ddianc er cymaint y chwenychent hwy, fel dynion ereill, eu wneuthur. Er hyny, gwna y genadwri aros yn ei llawn rym. Y mae yr Awdwr a'r Perchen yn aros, ac y mae ei feddyliau a'i fwriadau, pa un bynag ai dad- guddiedig ai annadguddiedig ydynt, yn aros, a rhaid ea cyflawni. Y mae peth tebyg i hyn yn natur. Gwna nerthoedd (forces) natur barhau pan y mae y pethau ar y rhai y gweithredent yn cyfnewid, a'r cynyrch a achlysurent yn darfod. Ni a welwn hyn yn addfediad yr ŷd a * Traddodwyd y sylwadáu canlynol ar Sabbath y 23ain o Hydref, 1870, yn Tregettyn (Key$tone) a Cliapel Albany, Uwlífordd, ar yr achlysur o farwolaeth y Parch. James Williams, gweinidog yr eglwysi a ymgyfartÿddant yn y lleoedd uchod. Mab henaf oedd Mr. Williams i'r Parch. David Williams, Llanwrtyd, yn awr y gweiuidog henaí o lawer yn mhlith yr Annibynwyr yn Nghymru. DerbyÉwyd ef pan yn dra ieuanc gan ei dad, feddyliwu, i aelodaeth eglwysig yn Troedrhiwdalar. Wedi hyny, aufonwyd ef i'r ysgoí ramadegol yn y Neuaddlwyd. Yma yr oedd yn fachgenyn Uawen, dedwydd, yn cael ei hoffi yn fawr gan ei gymdeithion am ei ddiniweidrwydd a'i sirioldeb. Gallasai ymroi yn ddiwyd wrth ei wersi, a gallasai heíýd fẁynhau prydnawn o ryddid gydag aidd bywiog. Tra yma 13