Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR MEHEFIN, 1872. $ỳfaxd tm ÿ^olìon Saírki|0Í p tttfẅinttír % toéb g mu &bh%%% p btb^ 0 0gmo:g0 p mt f ppŵnt Jgjfómrf* GAN Y PARCH. D. THOMAS, DOWLAIS. Nid yw geiriad y mater wyf wedi gael i ysgrifenu arno yn eistedd yn hollol esmwyth ar fy meddwl. Mae rhanu yr eglwys a'r weinidogaeth braidd yn annaturiol. Mae y weinidogaeth yn rhan o'r eglwys; swydd berthynol i'r eglwys ydyw. Mae yr_ eglwys yn cynwys y weinidogaeth. Ac yn y papyryn hwn nid wyf wedi bob yn fanol gyda llinell y gwahaniaeth, daw y geiriau yr eglwys a'r weinidogaeth i mewn fel y byddo yn gyfleus. Mae yma beth arall yn ngeiriad y mater sydd yn bwysicach, ac yn ei gwneud i raddau yn anhawdd i ddeall yn gywir pa gyfeiriad a amcenid i mi gymeryd. «'Dyledswydd yr eglwys a'r weinidogaeth yn eu perthynas a phlant ein hysgolion Sabbathol." " Plant ein hysgolion Sabbathol." Yn mha ystyr y mae i ni gymeryd " plant ein hysgolion Sabbathol?" Os dim ond y rhai sydd yn bresenol yn eu mynychu, nid wyf yn gallu gweled pa wahaniaeth mawr a ali unrhyw gyfnewidiad a ddichon gymeryd lle yn ein hysgolion dyddiol i wneud yn ein dyledswyddau at ddeiliaid ^mörcoj ein hysgolion Sabbathol. Gall, y mae yn wir, effeithio peth—galw arnom i fod yn fwy effro i gadw i fyny ddyddordeb yn mhynciau mawrion CrÌ8tionogaeth—i drwytho eu mecìdyliau a dylanwad iachusawl crefydd y Testament Newydd, fel y byddo iddynt gael eu dysgu i wneud iawn ddefnydd o'r addysg a gyfrenir iddynt yn yr ysgolion dyddiol. Ond ni byddai unrhyw gyfnewidiad a all gymeryd lle yn ein hysgolion dyddiol i effeithio yn bwysig iawn ar y rhai sydd yn awr yn perthyn i'n hysgolion Sul. Addysg grefyddol a gyfrenir yn bresenol yn ein hysgolion Sabbathol, a'r unrhyw addysg a raid gyfranu ynddynt yn y dyfodol, pa gyfnewidiad bynag a all gymeryd ile yn ein hygolion dyddiol. Óallwn feddwl yr amcenid i ni gymoryd golwg eangach na deiliaid presenol ein hysgolion Sabbathol wrth roddi y mater hwn i ysgrifenu arno. Er mai plant ein hysgolion Sabbathol a ddywedir, y bwriedid ar yr un pryd i ni gymeryd golwg ar ddyledswydd yr eglwys a'r weinidogaeth tuag at y dô eydd yn 21