Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MEDI, 1872. MAWRTH 14, 1872. GAN Y PARCH. W. GRIFFITHS, CAERGYBÍ. " Tetjgabedd yr Arglwydd yw na ddarfu am danom ni; o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef." Ymrwymais o'r blaen, bum mlynedd yn ol, i gyflawni hyn o orchwyl; ond fe'm lluddiwyd gan y Meistr. Gwelodd yn dda fy rhoddi eilwaith yn yr athrofa am bedair blynedd; sef athrofa cystudd. Ac un ragorol o dda yw hi, er ei bod yn un lled ddrud. Dyna dystiolaeth pawb o'r brodyr a fu ynddi erioed. Hyderaf y gallaf fìnau ddyweyd mai "da oedd i mi fy nghystuddio." Yr ydys wedi dysgu llawer o wersi da yno, a'u dysgu yn llawer gwett nag y gallesid eu dysgu yn unman arall. Y mae yn ddiamheu genyf fod yr Arglwydd yn fynych yn cystuddio ei weision, nid yn gymaint mewn ffordd o gerydd am ryw fai neiUduol, ond yn hytrach i'w cymhwyso at ryw wasanaeth neillduol drostoyn y byd. Efallai, fy mrodyr, y bydd i chwi gofio hyn o sylw, ac y bydd cofìo hyn yn gysur i chwi eto yn nyddiau tywyllwch a ddichon fod yn eich aros chwithau hefyd. "Ac yn awr, beth a ddywedaf ?" Dyna y meddwl a ddaeth gyntaf i mi wedi eistedd i lawr gyda'r bwriad i'ch anerch fel hyn. " A pha beth a ddywedaf, nis gwn." Dyna yr ateb a gefais. A phe buaswn wedi ei gael yn gynt, y mae yn debygol iaẅn mai ateb gwahanol, a mwy priodol hefyd, a gawsai ein Parchedig Ysgrífenydd genyf fìnau pan y gofynodd i mi ym- gymeryd â'r gwasanaeth hwn. Ond bellach, rhaid gwneud yr hyn a allom. Ac i'r dyben hyny, ni a ranwn eich tymhor chwi, frodyr ieuainc, i dricyfnod. A dyna y blaenaf— ÎÜoh dyfodiad yma. Y mae hwnw yn mhlith y pethau a fu. Y mae wedi myned heibio, ac nid oes galw yn ol arno mwyach. Ond gellir ei alw i gof; a diau eich bod yn gwneud hyny yn fynych, ac yn gwneud hyny gyda gradd o bryder. A dyna'r pryder, onide, A ydym ni yn alwedigion yr Arglwydd? "Arglwydd yr arglwyddi ydyw, a Brenin breninoedd; a'r rhai sydd gydag ef sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlawn." Maent wedi eu galw o'r byd i'r eglwys, a'u galw hefyd o'r eglwys i'r pulpud. Heb y cyntaf, nid oes neb yn Gristion. Heb yr ail, nid oes neb yn bre- gethwr. Öalwad rasol ac achubol yw y gyntaf, ar ddyn ei hun yn bersonol, o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. " Yr hwn a'n hach- ubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth santaidd; nid yn ol ein gweith- 33