Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1872. ifaiw %bx #gkrj ŵpír §xá\tx. GwOBBAU A CnOSBAU YN LlYWODBAETH DUW. Yr hyn sydd yn gwneud sefyllfa ddyfodol yn bwysig i ni ydyw ein gallu i fod yn ddedwydd ac yn druenus, a bod ein dedwyddwch neu ein truehi yn y byd a ddaw yn dybynu ar ein hymddygiad yn y byd hwn. Diehon y byddai cywreinrwydd weithiau, yn annibynol ar hyn, yn awyddu gwybod rhywbeth am sefyllfa ddyfodol; yn neillduol wrth weled ein cyd-ddynion yn marw, neu weled angeu yn nesu atom ni ein hunain. Ond ni wnelai dynion rhesymol feddwl dim am y byd dyfodol, heblaw rhywbeth yn achlysurol felly, pe byddai hi yn sicr nad yw natur ein sefyllfa ddyfodol yn dybynu dim ar ein hymddj'giad personol; ond o'r tu arall, os oes sail i gredu fod ein dedwyddwch yn y byd a ddaw yn dybynu ar ein hymddyg- iad yn y byd presenol, mae rheswm digonol dros y pryder mwyaf, a thros i ni ymdrechu hyd y mae ynom i ochelyd y trueni a chyrhaedd y dedwydd- wch hwnw yn y byd a ddaw, yr hyn yr ydym yn tybio ein hunain nid yn unig yn alluog o hono, ond yr hyn hefyd sydd wedi ei osod yn ein gallu ni yn y byd hwn. Dylid rhoddi yr ystyriaeth fwyaf difrifol i'r pwnc o fod natur ein sefyllfa ddyfodol ẅedi ei osod yn ein gallu ni, sef yn dybynu ar yr hyn ydym yn ei wneud yma, pe na byddai un prawf dros y byddwn yn bodoli wedi marw ond y prawf tebygol a nodwyd yn y llythyr diweddaf. (Diwygiwr Awst.) Yn awr, yn y bywyd presenol, mae yr oll ydym yn fwynhau, a'r rhan fwyaf o'r hyn ydym yn ddyoddef, wedi ei o»od yn ein gallu ni ein hunain, canys canlyniadau ein gweithredoedd ni ein hunain yw pleser a phoen ; ac y mae Awdwr ein natur wedi ein cynysgaethu â galluoedd i ragweled y canlyniadau hyn. Mae profiad yn ein dysgu nad yw Duw yn gwneud cymaint â dyogelu ein bywydau yn annibynol ar ein gwaith ni yn darparu lluniaeth ac ymborth, drwy yr hyn mao efe wedi trefnu i'n bywydau gaei eu cynal, ac heb yr hwn y mae Efe wedi trefnu nad ydynt i gael eu cynal. Ac nis gallwn gael y pethau hyn heb ymdrech o'n tu ein hunain; a thrwy ddoethineb a gofal priodol ni a allwn fod yn weddol ddedwydd; ao o'r tu arall ni a allwn drwy annoothineb a diofalwch wneud ein íiunain yn an- nedwydd a^thruonus iawn. Ac y mae llawer yn gweled yn dda i wneud eu hunain yn dra thruenus, hyny yw, maent yn gwneud pethau ag y gwyddant yn mlaenllaw fydd yn sicr o arwain i dlodi, afiechyd, gwarth, ac 48