Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWE, IONAWR, 1873. GAN Y PARCH, D. LEWIS, LLANELLI. Y PETH mwyaf yn y byd hwn ydyw dyn, a'r peth mwyaf mewn dyn ydyw enaid. Gan mai hanfod ysbrydol, diddefnydd yw enaid o ran ei natur, y mae yn anhawdd, efallai yn anmhosibl, i ddyn yn ei sefyllfa bre- senol roddi darnodiad cywir o hono; eto, y mae amryw o'r hen athronwyr paganaidd wedi amcanu hyn. Dywed rhai o honynt mai tân yw o ran ei gyfansoddiad, ereill mai dwfr, ac ereill awyr. Y darnodiad ysgrythyrol o hono yw, Anacll yr Hollalluog—"Ac a anadlasai yn ei ffroenau anadl einioes." " Ysbryd Duw a'm gwnaeth i, ac anadl yr Hollalluog a'm byw- iocaodd i." Gwell genym y darnodiad byr yma, er fod hwn hefyd yn llawn dirgelwch, na'r un a geir yn ysgrifeniadau dychymygol a chywrain philos- ophyddion y cynoesau. Y mae enaid i'w wahaniaethu oddiwrth fywyd. Y mae bywyd yn eiddo i lysiau, coedydd, ac anifeiliaid direswm, ond ni phriodolir eneidiau o gwbl iddynt hwy, gyda'r eithriad o rai adnodau lle yr arferir y gair enaid yn gyfystyr a'r gair bywyd, ac yn llwon a chableddau dynion annuwiol. Mewn dyn, y mae y bywyd a'r enaid yn cydfodoli mor agos, fel nas gellir ond gyda chryn anhawsder eu gwahaniaethu. Ond nid ymadroddion cyf- ystyr ydynt, gan y gall bywyd focloli—fel y cawn enghraifft yn y greadig- aeth anifeilaidd a llysieuol—niewn gwrthddrychau nad oes genym y seiliau Ueiaf i gredu eu bod yn feddianol ar eneidiau. Y mae eto i'w wahaniaethu oddiwrth ei gyneddfau ei hun. Y mae y gwahaniaeth yn un cyffelyb i'r hwn sydd rhwng defnydd a'i briodoleddau. Rhai o briodoleddau defnydd ydynt ffurf, lliw, sylweddolrwydd, pwys, a meddiant o le. Ond y mae defnydd ei hun yn rhywbeth gwahanol i'r naill a'r llall o'r priodoleddau yma yn unigol, ac i'r oll gyda'u gilydd. Felly enaid—y mae yn hanfod sydd yn gorwedd wrth wraidd yr holl gyneddfau, ond eto yn wahanol iddynt. Y prawf uchaf, ac yn wir yr unig brawf gwir- ioneddol, fod dyn yn meddu enaid jw, ymwybyddiaeth. Y mae yn an- mhosibl profi ei fodolaeth drwy resymeg—y mae tuallan i gylch gweithred- iad rheswm—ond y mae genym y sicrwydd uchaf, sef y sicrwydd sydd yn deilliaw o ymwybyddiaeth, o'i fodolaeth. Teimlwn fod genym enaid. Nis gall y gadwyn gadarnaf a chywreiniaf o resymau wrthbrofi yr hyn yr ydym yn ymwybodol o hono. Nid yw rhesymeg yn ei ffurf oreu ond eiddil a di- werthyn ymyl ymwybodolrwydd.