Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR CHWEFROR, 1873. ilaMtett Cjmm ar yx %Ifogs teÖ0M00l GAN Y PARCH, G. JOHN, CHINA. " A'r rhai yma o dir Siuim."—Esaiah. Cryf iawn yw y rhesymau dros gredu mai China yw y wlad at ba un y cyfeiria y proffwyd yn y geiriau hyn. Nid oes genym amser yn bresenol i fyned dros yr holl resymau hyn. Digon yw sylwi mai dyma yw barn bwyllog a difrifol y rhan fwyaf o lawer o'r ieithegwyr sydd wedi talu sylw i lenoriaeth China. Safie y proffwyd yw Jerusalem—canolbwynt y ddaear iddo ef y pryd hwnw. Edrycha yn mhob cyfeiriad, ac yn ysbryd pro- ffwydoliaeth, y mae yn gweled dychwelwyr yn dyfod at yr Arglwydd o bob cwr o'r byd, " Ŵele, y rhai hyn a ddeuant o bell," hyny yw, o fanau pellaf y deheu. Tebyg i hyn yw'r iaith a arferir yn y Testament Newydd i ddesgriêo y cyfeiriad hwn o'r byd. Dy wedir wrthym i " frenines y deheu," neu Sheba yn Affrica, "ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon." At y rhan hon o'r byd y cyfeiria y proffwyd hefyd pan y dywed, "Pendefigion a ddeuant o'r Aifft, Ethiopia a estyn ei dwy- law yn brysur at Dduw." "Ac wele, y rhai acw o'r gogledd, ac o'r gor- llewin," hyny yw, Ewrop, ac America hefyd yn nghyfiawnder proffwydol- iaeth. "A'r rhai yma o dirSinim," hyny yw, China, y wlad fawr acw yn eithafoedd y dwyrain ac ar gyffíniau pellaf Asia. Gelwid y Chiniaid yn fore iawn gan y Ehufeiniaid y Sinae, neu pobl tir Sinim; a Chin, neu Tsin, neu Sin oedd enw un o'r taleîthiau i ba rai y rhenid China ganrifoedd cyn y cyfrif Cristionogol. Goddefer i mi wneud un sylw yn mhellach. Os China yw tir Sinim, yr ydym yn sicr mai yn llyfr y proffwyd Esaiah o'r holl lyfrau a welir heddyw tu allan i lenyddiaeth y Chiniaid y ceir y cry- bwylliad cyntaf am y wlad eang acw. Chwi wyddoch fy mod I wedi treulio pymtheg mlynedd yn China fel cenadwr. Anmhosibl yw i mi beidio teimlo dyddordeb mawr yn efongyleiddiad y wlad, a dwys ddymuno dwyn ereill i deimlo yn yr un modd. Gyda'r amcan hyn mewn golwg, yr wyf am alw eich sylw at enwau a natur yr hawliau sydd gan China ar yr eglwys Gristionogol. f I. Meddyliwch am eangder a chyfoeth y wlad. 0 holl wledydd pagan- aidd y byd, y mae China yn sefyll yn benaf a blaenaf yn yr ystyr hwn. Hhenir yr ymherodraeth gan y Chiniaid eu hunaia i dair rhan, sef (1) Y