Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1874. iftwMỳga ^îmmsml p tëgaora a gtóofm §ẃ GAN Y PABOH. L. PROBERT, PENTRE, Dewöys y Beibl fod y Oreawdwr wedi gosod terfyn penodedig i oes dyn ar y ddaear. Mae yr enaid yn anfarwol fel Duw ei hun ; ond gan mai aelod o gyfundraeth natur yw y oorff, mae fel pob peth o'i gylch a ther- Sn penodedig iddo. " Onid oes amser penodedig i ddyn ar y ddaear ? nid yw ei ddyddiau ef megys dyddiau gwas cyflog?" Nis gall, er cymaint ei fedrusrwydd, symud y terfyn hwn yn mhellach, er y gall achosi ei farwolaeth cyn cyrhaedd y terfyn. Diamheu fod miloedd yn ein mynwentydd heddyw allasent fod yn fyw ar y ddaear, oni buasai iddynt esgeuluso deddfau iechyd, gan ddilyn ffyrdd annuwiol. " Na fydd ry annuwiol; paham y byddi farw ayn dy am,8er.n Ond os medr dyn leihau terfynau bywyd, nis gall " ychwanegu cyfudd at ei faintioli," " gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagdrefnu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod o honot ei derfynau/<?í nad U drostynt.v Mae yn bosibl hefyd i ddyn i íyrhau oes ei gyd-ddyn, onide annhegwch fyddai cosbi y llofrudd am drochi ei ddwylaw yn ngwaed y llofruddiedig. Êhoddwyd y gorchymyn "Na ladd" ar ben Sinai, ac mae y gorch- ymyn yna yn dangos fod yr un. mor bosibl i ddyn fyrhau einioes arall ag ydyw iddo addoli eilunod, tori y Sabbath, a lledrata eiddo ei gymydog. Ond os medr dyn fyrhau oes, neu ei hestyn tufewn i gylch yr amser penodedig, fel y gwna meddygon yn aml trwy gymhorth elfenau meddygol o iwgery natur, ni fedr ei hestyn dros ben y terfynau gosodedig gan Dduw. Credai yr Alcemyddion gynt fod y Creawdwr daionus wedi gosod cyffeiriau meddygol mewn natur ar gyfer pob math o glefydau ; a phe gallesid cael gafael ynddynt, y buasent yn iachau pob clefyd, ac alltudio angeu allan o'r byd. Ond nid oeddent hwy wedi darllen yn llyfr Job— " A gosod o honot derfynau fel nad êl drostynt" Nid oes neb ond Duw a fedr estyn dyddiau dyn dros y terfynau penod- edig, ond mae genym enghreifftiau o hono ef yn gwneud hyn. Dywedodd y proffwyd gynt wrth Hezeoiah, "Trefna dy dŷ, canys marw a fyddi, ac ni fyddi byw." Ond wedi i Hezeciah droi ei wyneb at y pared, a gweddio am adferiad, ^r ydym yn cael—" Clywais dy weddi, gwelais dy ddagrau: wele û yn dy iachau di; y trydydd dydd yr ai di i fyny i dŷ yr Arglwydd, 13