Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGÌWR. GORPHENHAF,1874. GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANELLI. Wedi ymgymeryd ag anerch Cynadledd fel hon, nis gallaswn heb gryn bryder benderfynu ar ba beth i wneud hyny; ond yn unol ag awgrym gyfrinachol oddiwrth Mr. Evans (Aberaeron), y buasai yn dda gwneud Adfywiad Crefyddol yn bwnc ymddyddan yn y Gynadledd, penderfynais wneud ychydig o sylwadau ar y pwnc hwnw. Pe caniatasai amser, bu- asai yn ddymunol i sylwi yn (1) Pa beth yw Adfywiad Crefyddol ? (2) Yr angen am dano; ac yn (3) Pa fodd mae ei gael. Ond palla amser i mi sylwi ond yn unig ar yr ail beth, sef, Fod Arhenigion yr Oes yn gwneud Adfywiad Crefyddol yn wir angenrheidiol. Mae adfywiad crefyddol i'w fawr ddymuno bob amser, ac y mae bob amser yn hollol angenrheidiol er gogoneddu Duw yn achubiaeth y byd; ond amcanaf nodi rhy w bethau neìllduol ag sydd yn ei wneud yn neittduol angenrheidiol yn y bJynyddau hyn:— 1. Llwyddiant tymhorol tnawr. Cyfeiria Zechariah at amseraupryd " nad oedd na chyflog i ddyn na llog am anifail; " ac y mae Uawer yn fy w yn bresenol ag sydd yn cofio amserau cyffelyb yn ein gwlad ni. Ond yn y blynyddau hyn, mae cyfiog dda i ddyn, a Uog Uawn am anifail. Mae y gweithiwr sobr, fel rheol, yn enill cynaliaeth i'w deulu, ac yn darparu ychydig ar gyfer "diwrnod gwlawog." Mae gwraig yr amaethwr yn myned i'r farchnad yn y boreu, â'i char yn llwythog o iîrwythau, ac yn dychwelyd yn yr hwyr â'i char yn wag, ond â'i llogell yn llawn; ac y mae y masnachwr doeth a diwyd yn gallu myned yn mlaen heb golli ei gredyd yn y banc. Yr ydys yn gweithio llai ac yn enill mwy nag oeddid, hyd y nod ychydig flynyddau yn ol; a dim ond i ddynion beidio afradloni, ac i'r llywodraeth beidio gwastraffu, gallem gael ein " gwala a'n gweddill'' o holl angenrheidiau bywyd a gweithio llai eto. Dywedir y dylai dyn, fel rheol, orphwys wyth awr o'r pedair ar ugain; yna gallai weithio wyth awr, a byddai ganddo drachefn wyth awr i adgyweirio ei gorff, diwyllio ei feddwl, ac addoli ei Dduw. Ond ös nad yw pethau cystal ag y dylent fod, dylem ddiolch i Dduw am yr amser llwyddianus presenol; ac yr wyf fì yn 25