Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR HYOREF, 1874. UNDEB Yft ANNIBYNWYR CYMREIG. (Parhad o'r Bhifyn diweddaf) Am 7 o'r gloch cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Soar, o dan lywyddiaeth Henry Richard, Ysw., A.S. Yr oedd y capel eang yn orlawn o wrandawyr, a lluaws yn methu cael lle i fyned i mewn. Yr oedd yn un o'r cyfarfodydd mwyaf rhagorol a gafwyd yn Merthyr erioed. Dywedai Mr. Bichard wrth agor y cyfarfod :— Dichon y tybia rhai o honoch ei fod yn gyfnewidiad a rhyddid mawr i mi i adael cynulliad politicaidd ag yr wyf wedi bod yn eistedd ynddo am ryw bedwar neu bum mis, a dyfod i gynulliad eglwysig fel hwn. Ond yr ydych yn camgymeryd yn ddirfawr. Am y ddau fìs diweddaf yr wyf wedi bod yn cymeryd rhan mewn cynadledd eglwysig. Y mae Tý y Cyffredin yn feunyddiol yn ymlithro. i fod yn gorff eglwysig. Yr oeddwn yn taflu golwg dros restr y mesurau cyhoeddus a ddygwyd ger bron y Senedd yn y tymhor presenol, a chefais mai y ddau fuddiant a gymerodd y rhan fwyaf o'n hamser a'n sylw, oedd y tafarnwyr a'r eglwysi; neu i ddefnyddio iaith ein cyfeillion Ceidwadol yn yr etholiad diweddaf, ein heglwys genedlaethol a'n diod genedlaethol. Cyfrifais y mesurau hyn, a chefais fod nifer y rhai a ddygwyd i mewn i'r dyben o reoleiddio y fasnach feddwol yn wyth, a rhif y rhai er rheoleiddio amgylchiadau yr eglwys yn ddeunaw. Felly yr ydym wedi bod yn ymhoncian cydrhwng yr ysbrydog a'r ysbrydol. Dichon y dymunech gael enwau rhai o'r mesurau diweddaf yna. Cawsom Fesur Noddaeth Eglwysig (Ysgotland)—Mesur Dilead y Dreth Eglwys (Ysgotland)—Mesur Eglwys-wardau—Mesur y Clerigwyr Trefedigaethol —Mesur Troseddau Eglwysig—Mesur Noddaeth Eglwysig (Eglwys Loegr) —Mesur y Sefydliadau Mynachaidd—Mesur er hyrwyddo y gwasanaeth cyhoeddus—Mesur Eheoleiddiad y gwasanaeth cyhoeddus—Mesur gwell- iant Deddfau UnffurfTaeth —Mesur Penodiad Archesgobion ac Esgobion— Mesur Cysegriad—a Mesur er rhoddi caniatad i Esgob Calcutta adael ei esgobaeth am ych^ig amser, &c. Am y ddau fis diweddaf, gyda'r eithriad o ychydig derfysg Gwyddelig, cymerwyd ein hamser bron yn gyfangwbl i ddadleu a threfnu cyflwr mewnol, trefnu amgylchiadau, neu wrthwynebu ymhoniadau uchelgeisiol dwy eglwys sefydledig. Buom yn siarad am Henaduriaethau a Chymanfaoedd Eglwysig, am Gynulliadau Cyffredinol a Chynadleddau Eglwysig, am etholiad gweinidogion a thaliad eu cyflogau, am blwyfolion a chymunwyr, am Gyffesiad Westminster ac Erthyglau Órefydd, am ddefodau ac arferion, am athrawiaeth a dysgybl-