Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

. . - • Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1874. GAN Y PARCH. LEWIS JAMES, CAÄPAN. [Darllenwyd yn Nghyfarfod Chwarterol j3ir Benfro, yn Trewyddel, Hyd. 7fed. Y pwnc i'w drin yn mhellach yn Nghyfarfod Bethesda, pryd y darllenir JPapyr arall gan J. Thomas, Ysw., Llethr.] Mae y Oyfarfod Chwarterol hefyd, fel braidd pob athrawiaeth a phob sefydliad yn yr oes hom, ar ei brawf. Ehaid iddo oddef ei chwilio a'J bwyso. Er hyny credaf nad oes neb yma yn elynol iddo, ac am ei ladd; yn hytrach dywedwn, " Na ddifwyna ef, canys y mae bendith ynddo." Mae y Cyfarfod Chwarterol hwn bellach yn chwe mlynedd a deugain oed. Mae yn anwyl genÿm ftm yr hyfrydwch geir ynddo, y lles a wneir trwy- ddo,, a'r adgofion perthynol íddo; a thybiaf ein bod oll, tra yn croesawi beirniadaettf onest a charedig, yn fwy awyddus i'w berffeithio na'i ddinystrio. Cydunwn fod hawl gan bob eglwys Annibynol i drefnu ei holl achosion ei hun, heb fod yn gyfrifol i neb ond i Grist ei Phen; ond nid ydym wrth hyny yn golygu ei bod i wrthod cymdeithasu ag eglwysi ereill ar dir cyd- raddol. Alegys y mae yn anfantais ac yn golled i'r Cristion unigol i fod • ar ei ben ei hun heb gymdeithas y saint, felly hefyd y mae i eglwys fod heb un math o gymundeb ag eglwysi ereill. I. Yn yr eglwysi apostolaidd gwelwn gymundeb helaeth ya cael ei ddwyn yn mlaen rhyngddynt trwy ymweliadau yr apostolion a'r efengylwyr, a thrwy genadau, megys Tychicus ac Onesimus at y saint a'r ffyddlawn frodyr yn Colossa, i hysbysu iddynt " bob peth a wneid;' yn Ehufain, ac i ddwyn yn ol yno hanes eglwys Colossa. Ordeiniodd eglwys Antiochia fyned o Paul a Barnabas, a rhai ereill, yn genadau drosti at yr eglwys yn Jerusalem yn nghylch cwes- tiwn o athrawiaeth. Dewiswyd (trwy godi llaw, yn ol ystyr y gair) cenad- au gan eglwysi Macedonia ac Achaia i wneud ac i ddwyn y gasgl i'r saint tylodion yn Judea yn amser y newyn. Byddai y cenadau hyn, yn gystal â'r llythyrau apostolaidd, rhai o honynt o leiaf yn gylchredol, heblaw cyf- lawni eu negesau penodol, fn. cael eu llwytho â hanes yr eglwjjsi, a chof- ion serckuB eglwys at eglwys a brawd at frawd. 0 Eufain, gydaTychicus ■* 45