Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. IONAWR, 1875. Ìtti^m %üẁm %lÉöfg»i ^móftpofl u GAN JOHN THOMAS, YSW., LLETHR. Mr. Gol,.—Y mae yr hyn a ganlyn yn sylwedd papyr a ddarllenais ar gais y frawdoliaeth yn nghynadledd cyfarfod chwarterol sir Benfro, a gynaliwyd yn Bethesda, ar y 17 a'r 18 o fis Tachwedd, 1874. Ar ddymuniad y gynadledd yr wyf yn ei anfon i'\v gyhoeddi yn y Diwtgiwr. Y mae yn iawn i mi ddyweyd fy mod yn ddyledus am amryw o'r syniadau dilynol i weithiau Dr. Davidson ar " Church Polity" y Parch. F. Myers ar y " Church of Ch'rist and the Church of England" yn nghyd ag i waith bychan yn dwyn y teitì " Priesthood of Believers" gan awdwr anadnabyddus.—J.T. Tach. 2J, 1&jU. Gwesöir arnom ofyniadau lled bwysig y dyddiau hyn gan ysbryd yr oes. Arwydd o lwfrdra neu anystyriaeth fyddai eu bwrw o'r neilldu, ac arwydd o gulni a rhagfarn fyddai troi i rwgnach a sori yn eu herwydd, gan ofyn yn ddigofus, Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau presenol ? Y maent yn cyfodi oddiar angenion yr oes, a goreu pa gyntaf yr eir wyneb yn wyneb â hwy. Ganwyd ni yn yr oes hon, ac nid mewn un arall, a'n dyledswydd yw bod â'n llygaid yn agored i angenion ein cyd-ddynion, a'n dwylaw yn barod i'w cynorthwyo. Nid y mwyaf dibwys o'r gofyniadau hyn yw testyn y papyr yma. Na, y mae wedi dyfod yn bwnc y dydd. Nid yw yn ofynol cyfeirio at yr am- rywiol agweddau y mae yn gymeryd. Digon i aracan y papyr hwn yw ein bod yn deimladwy o'i bwysigrwydd a'i gyífredinolrwydd. Creay gofyniad hwn anghydwelediad a thwrw yn ngwledydd Protestan- aidd a Phabyddol y cyfandir, a chryn ddadleu ac anghydfod yn mhlith uchel, isel, a llydain eglwyswyr, acenilla sylw rhai o enwadau Ymneillduol ein gwlad ein hunain. Y mae yn peri dyryswch i'n seneddwyr, ac yn peryglu bodolaeth rhai cyfundrefnau eglwysig. Tra y byddo yr Annibyn- wyr yn fTyddlon i'w hegwyddorion, ni fydd achos iddynt hwy frysio na therfysgu yn yr ymdrech. Y perygl yr ydym ni yn agored iddo, yw i ni gael ein hudo gan y gwychder, a'r mawredd, a'r rhodres â pha un yr am- gylchynir crefydd Crist y dyddiau hyn, i ymadael â'n symlrwydd nodwedd- adol, ac â'n hysbrydolrwydd cyntefig, yn yr hyn y raae cuddiad ein cryf- der, a dirgelwch ein llwyddiant. Dyma ddywed awdwr diweddar am danom fel Ymneillduwyr:—-"Dissent," meddai, "is changing its ground, and is losing by the change. Few now fìud fault with the expressions of