Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MAI, 1875. ^mc ffgìrìrte fẁ §ìrẃ afi êrtfgìẁ. V. Gan y Parch. R. W. ROBERTS, Ystradgynlais. " Pa fodd y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw." Anfynych yr adnabuom ddyn nodedig o santaidd, heb ei fod hefyd yn nodedig o brofedigaethus, gan nad pa un fyddai ai hen ai ieuanc. Llanc neillduol o santaidd oedd Joseph, cyntafanedig Rahel o Jacob ; ac nid mynych y clywsom am neb gafodd fwy o dywydd—cheir mo'r goron heb y groes. Pan yn ddwy ar bymtheg oed, dygodd achwyniad yn erbyn ei írodyr, am nad oeddynt yn ymddwyn fel ag y dylasent yn absenoldeb eu tad. " A Joseph a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad," er mwyn iddo eu ceryddu am beidio gwneud allan o'i olwg megys gartref. Y mae llanciau fel yna mor dwyllodrus â tharth niwlog yn more haf, neu y nos- waith dawel yr aeth y morwyr allan o'r porthladd, ac y cododd tymhestl- wynt rhyferthwy yn y môr, nes eu claddu hwy a'u llestr yn nyfnder y lli cyn toriad gwawr. Llanc gwastad, cyson, rheolaidd, a difwlch oedd Joseph, yn ymddwyn yr un fath gartref ac oddicartref. Halltwr pechod oedd ef gartref yn nhy ei dad, a'r un blas oedd arno yn yr Aifft, ar ol bod ddeng mlynedd yn gaethwas yn nhy Putiphar, tywysog Pharaoh, a'r dÌBtain. Mae llanciau da fel y shooting stars, yn gadael llwybr goleu ar eu hol ar wyneb yr wybren dywyll; neu fel blwch o berarogl wedi agor mewn ystafell yn gollwng sawyr pêr i rogleuo yn arwynt dilwgr yn ffroenau pawb ddelont i mewn. Yr oedd sawyr hyfryd yn nawsio yn nghartref Joseph yn mhen ugain mlynedd ar ol iddo ymadael; nis gallai ei dad na'i frodyr anghofìo ei goffadwriaeth mwy na gwin Libanus. Ao mae penod ein testun fel llwybr o oleunì yn aros yn ffurfafen dywell ty Putiphar, i ddangos fod great shooting star wedi bod trwy yr awyr yno rywbryd ; a'r testuu yw y llecyn goleuaf yn yr wybren. Yr oedd y seren yn enwog yn ngholwg yr Aifftiaid, a gall ei llewyrch fod yn llawn mor wasanaethgar i ninau y Cymry. Y LLANC—CREFYDDOLDEB Y LLANC—A PHAECH Y LLANC i'w DdDW. Llanc wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol. Yr oedd ei dad yn un o'r tri patriarch goreu yn ei oes, a'i fam yn rhagori cryn dwysged ar y cyffredin. Gallesid cyfrif tri ar ddeg o blant yn cydblygu bob dydd o flaen allor deuluaidd y teulu, pan fyddai y tad yn offrymu aberth drostynt i Dduw y 17