Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MAI, 1876. fgfftfŵMmt fefgírM |ftai GAN Y PARCH. L. JAMES, CARFAN. " Hyffordda blentyn yn mhen ei ffordd ''—train up a child. Golyga hyu fwy na'i ddysgu. Cynwysa gwrs o ddysgyblaeth drwy wylio, ceryddu, anog, ac arfer i wneud yr hyn sydd iawn, yn gystal â'i wybod. " Addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd ;" :i athrawiaeth " yma yw dysgu neu gyf- ranu gwybodaeth ; "addysg" yw y ddysgyblaeth neu yr hyfforddiant. Dysgu i wybodyw y blaenaf, eu harfer i wneudyw yr olaf. Camgymeriad pwysig a rhy gyffredin yw meddwl mai cyfranu gwybodaeth grefyddol yw'r cwbl sydd i'w wneud. Nid yw hyn ond rhan o'r gwaith, a'r rhan hawddaf o hono. Gellir gwneud hyn heb hyfforddi. Ie, gall y dysgu a'r hyffbrddi fod yn groes i'w gilydd; y dysgu yn dda, ond yr hyfforddi yn ddrwg. Pa fodd hyny ? Fel hyn, ac mewn Uawer ffordd arall:—Dyma fachgenyn yn gweled ei fam yn rhoi i gadw yn y cwpwrdd clo orange a fwriadodd i blentyn claf ei chymydog. " Mam, rhoddwch hwna i mi ?" " Na chei, machgen i; i John bach sy' mor sal y prynais i hwna." " Mam, a gaf fì yr arangc V " Oni ddywedais wrthyt, na chei ? Nid yw plant da yn ceisio drachefn y peth y mae eu rhieni yn wahardd iddynt." Y drydedd waith, a'r gwjneb yn dechreu cuchio, a'r ilais yn troi ychydig i'r lleddf, " Mam, mae ei eisieu arnaf fi." " Mae y Beibl yn gorchymyn i blant fod yn ufydd i'w rhieni." Gyda hyn mae'r llais yn codi ac yn cy- meryd tôn fygythiol, " Mae'n rhaid i mi ei gael." " Pa aawl gwaith sydd raid i mi ddy weyd na chei di mo hono ? " Yna mae'i storm yn tori allan ; cria, bygytbia, ymdreigla ar y llawr, a dywed, " Mynaf fi ei gael." " Wel, hwre, a thaw son ; welais i y fath íachgen drwg â h?»n erioed.'' Yn awr, pa beth ydyw hyn ond dysgu uíydd-dod a hjfforddi i anulydd-dod ! Mae mwy o achos gan y plentyn i achwyn ar ei iam fí'ol nag sydd gan y íath fam i achwyn ar ei bachgen drwg. Er dwyn plant i fyny i'r Arglwydd rhaid i'r ddysgeidiaeth a'r hjffòrddiant fod yn dda, a'r ddau i gydfyned. Y mae cyfranu gwybodaeth grefyddol i blant yn galw yn uche] am fwy osylw. Teilynga iwy o íeddwl ac o ymdrech nag y mae ^edi gael hyd eto yn ein plith. Credaf fod ein Hysgolion Sabbathol yn ol yn mhell ar ein hysgolion dyddiol o ran eu trefn a'u heffeithiolrwydd, er yr addefwn ol mai dysgu crëfydd yw y peth pwysicaf. Faint o wybodaeth greíyddol a