Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1876. €$ùẀMlg a §pfrtöŴ0Ìr* GAN Y PARCH. B. LEWIS, BRYNBERIAN. Mae corff y wladwriaeth yn anafus gan " gyfeddach, diota a meddwdod.'' Gellir dywedyd yn ngeiriau ysbrydoliaeth, •' Y pen ollsydd glwyfus, a'r holl galon yn llesg. 0 wadn y troed hyd y pen, nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gwel'iau crawnllyd; ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew. Y mae eich gwlad yn anrheith- iedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân ; eich tir â dyeithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef." Mae difrod y diodydd meddwol mewn tref a gwlad yn Uawer gwaeth na'r difrod ddygodd y Babiloniaid ar wlad Canaan. Nid oes un dosbarth na rhyw, o'r pen coronog hyd y tylotaf o'r tylodion nad yw y fasnach mewn pethau meddwol, yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, yn effeithio yn niweidioi arnynt. Er f'od llawer o ddyngarwyr, gwladgarwyr, a Christ- garwyr wedi derchafu eu ileí a derchafu eu llaw yn erbyn y drwg hwn, eto mae'r difrod yn parhau, ac ar gynydd mewn rhai manau. Er pregethu, areithio, ac ysgrifenu, ffurfio "Bands of Hope" Cymdeithasau Dirwest, a Lodges y Good Templurs, lledu mae'r aríerion llygredig, ac yn cario llawer ymaith o bob oed a rhyw tua thraethau tylodi, afiechyd, coll cymeraid, a dinystr corff acenaid yn uffern. Mae rhai yn canu tônau ac emynau dirwest a'r Band of Hope â'r cwpan meddwol yn eu dwyiaw. Mae llawer o honom er ys tJynyddau, mewn math o ddychryn, wedi dringo twr dirwest, a goddef peth gwawd a dirmyg yn achos hyny. ünd teimlwn ein dyogelwch rhag y drwg hwn boed a fo. Edrychwn o'n hamgylch ar lu mawr o'n cyd-ddynion, yn htin ac yn ieuainc, yn wyr ac yn wragedd, yn fechgyn a merched, yn ymollwng i'r arferion o yfed y pethau meddwol, nes peri i ni weithiau wangaloni ac anobeithio am eu dyogelwch a'u hadferiad. Eto, o gariad atynt, yr ydym yn codi ein llef i'w ^hybuddio, ao yn estyn ein llaw i'w cynorthwyo. Mae'r nef yn dywedyd, " Nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anliadrwydd, nid mewn cynhen a chenfigen, eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu, &c., ac na wnewch rag-ddarbod dros y cnawd er mwyu cyüawui ei chwantau ef." Mae "cyfeddach, diota, a meddwdod," yn iliuell o bechodau cnawdol ag y dymunwn sylw neillduol y darüenydd atynt er