Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIW R. GORPHENHAF, 1876. %mt$ù i Jgfgẃgr ^ijpẃ %hxÿttûhtt. GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANELLI. [Traddodwyd yr Anerchiad canlynol yn Nghyfarfod Blynyddol yr Athrofa, Mehefin 14eg 1876, ac argreffir ef ar gais y cyfarfod.] Anwyl Frodyr,—Ddeuddeg mis yn ol yr oeddwn yn teimlo yn ddiolch- gar i'r Pwyllgor am osod arnaf yr anrhydedd o geisio genyf eich anerch ar yr achlysur presenol; ond íel yr oedd yr amser i wneud hyny yn ne8u, ac yn enwedig pan y ceisiais osod ychydig o feddyliau teilwng o'r gwrandawyr wrth eu gilydd, buasai yn dda iawn genyf pe gallaswn mewn anrhydedd daflu y dasg ar rywun arall. Ond gwyddoch fod diheuraw yn myned allan o arferiad, felly, heb ymdroi rhagor, crefaf eich hynawsedd am ychydig fynydau tra fyddaf yn eich anerch ar fyr eiriau; nis gallaf ymgeisio at gyfanrwydd. I. Yr ydych wedi eich galw i swydd hwysig ac anrhydeddus. Petrusaswn i alw y weinidogaeth efengylaidd yn " swydd," oni buasai fod Apostol mawr y cenedloedd wedi gwneud hyny o fy mlaen—" Yr wyf yn mawrhau fý swydd." Yr ydych wedi pasio test yr eglwysi a'r pwyll- gor yn llwyddianus ; eto nid ydych er hyny ond "offrymu tân dyeithr gerbron yr Argiwydd," os nad ydych wedi eich galw i'r swydd gan Dduw ei hun. Dengys yr ystyriaethau canlynol fod pregethu yr efengyl yn swydd bwysig ac anrhydeddus; ac yr ydym yn credu mewn cariad fod pob myfyriwr sydd yma wedi ei alw iddi:— 1. Yr ydych wedi eich galw i feddwl a myfyrio. Gogoniant penaf dyn y gall feddwl, ac yn enwedig y gall feddwl am betliau anweledig, ysbrydol, a thragywyddol. Os yw rhai creaduriaid ereill yn gryfach a chyflymach, ac yn meddu synwyrau naturiol llymach a mwy treiddiol na'r eiddo dyn, dyn yw y meddyliwr goreu o ddigon. Nid yw y doethaf yn oiysg y llwythau anifeilaidd ddim ond delff yn ymherodraeth meddyl- ddrychau. Nid oes digcn o synwyr yn un o honynt hyd y nod i gyneu tan. A gadawer i ddyuion areithio ar " dignity oflabour," i draethu am yr amaethwr yn aredig dan chwibanu, i farddoni am fwyniant y bugail yn mysg y defaid mân, i ddarlunio pleser " y rhai a ddisgynant mewn ilongau i'r môr," ac i baentio gogoniant y masnachwr Uwyddianus a'r 2*