Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. IONAWR, 1877. *§%nMtm gr %tm* GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH, " A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedà hefyd a'r môr yn ufyddhau iddo !"—Mat. viii. 27. Felly y gofynwyd am yr Iesu yn wyneb ei waith yn tawelu yr ystorm ar fôr Tiberias. Dywed Marc wrthym fod yr ystorm hono mor enbyd, fel yr oedd y tonauyn ymdaflu i'r Hong, " hyd onid oedd hi yn llawn weithian." (Marc iv. 37.) Tebyg mai llestr agored gyda hwyliau ydoedd eu llong ; ac wrth weled yr ystorm mor arw, a'r llestr yn Ilenwi, yr oedd y dysgyblion yn bur frawychus. Ond yr oedd yr Iesu yn cysgu yn dawel yn mhen ol y llong ar obenydd. Yr oedd wedi bod yn gweithio yn galed y dydd o'r blaen; a gwyddai na fyddai fawr o lonyddwch iddo wedi cyrhaedd i'r ochr arall i'r llyn, am y byddai tyrfaoedd yno yn ei gyfarfod. Dymunai, gan hyny, gael ychydig orphwysfa ac adferiad i'w natur tra ar y môr. Er ei bod yn ystorm enbyd, eto gallodd Ef gysgu yn ddigon tawel. Gwyddai nas gallai elfenau natur wneuthur dim niwed iddo Ef heb ganiatad ; ac heblaw hyny, yr oedd ei gydwybod yn dawel. A lle byddo blinder corff, cydwybod dawel, ac ymwybyddiaeth o ddyogelwch yn cydgyfarfod, y mae yn ddigon hawdd cysgu. Ond yr oedd perffaith dawelwch yr Iesu yn ymddangos i'r dysgyblion yn ddifaterwch am eu bywyd hwy. Dywed Marc wrthym, gan hyny, iddynt ei ddeffro Ef, a dywedyd wrtho, " Athraw, ai difater genyt i'n colli ni ? " A dywed Matthew wrthym hefyd iddynt ddywedyd wrtho, " Arglwydd, cadw ni: darfu am dauom." "Paham yr ydych yn ofnus, 0 chwi, o ychydig ffydd ?" meddai yntau. Ar un olwg gallesid meddwl fod eu ffydd yn bur gref, gan eu bod yn credu y gallasai Orist wneud dim mewn amgylchiadau mor beryglus. Er hyny, yr oedd yn wan, oblegyd gallasent weled fod Orist a hwythau yn yr un llestr, ac na allasai dim ddygwydd iddynt hwy heb ei fod yntau hefyd yn gyfranog o hono. Ond tra yn eu ceryddu yn dyner fel rhai o ychydig ffydd, Efe a geryddodd y môr yn awdurdodol. " Yna y cododd Efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môrj a bu tawelwch mawr." Ac yn wyneb hyn, "Y