Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1877. ẄBbwm p êfmà^m tógìŵ h §ŵl GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERCARN. 1 Bren. xii. 26—30. Y mae pechod a ffolineb bob amser yn dwyn gofid a thrueni. " Pechod hefyd pan orphener, a esgor ar farwolaeth." Acyn wir, y mae pöffpechod yn ffolineb ac ynfydrwydd. "Na wna di yr ynfydrwydd hyn," ebe Thamar wrth Amnon. Cywilydd a ffolineb pobloedd yw eu pechod. Bu pechod Solomon a ffolineb Rehoboam yn achos i ranu Israel a Judah. Y mae pechod Solomon yn digio Duw, a ffolineb Rehoboam yn digio y bobl. Gwrandawodd ef ar gynghor y gwjpr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, ac nid ar gynghor yr henuriaicÉRi fuasai yn sefyll gerbron Solomoa, ei dad. Mae cynghor dynion profìadol yn werth i'w dderbyn a'i ddilyn. Yn ol cyfansoddiad eín gwlad, ni buasai y gwyr ieuainc a roddasant y fath gynghor i Eehoboám yn cael eu galw i gyfrif fimpeachioj, oblegyd nid yw y pen coronog yn gyfrifol, ond y weinyddiaeth. Nid ymosod ar y goron wneir yn y wlad hon, ond galw y weinyddiaeth i gyfrif. Dyma un o ragoriaethau llywodraeth gyfansoddiadoi. Pe buasai llywodraeth fel hon ar Israel a Judah, ni fuasai ty Dafydd yn colli y deg llwyth; oud wedi pob peth, pechod achosodd rwygiad y freniniaeth. " Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl, o herwydd yr achos oedd oddiwrth yr Arglwydd." Pechod Solomon barodd hyn ; dyma yr achos gwirioneddol. Yr oedd yr Arglwydd trwy ei broffwydi wedi rhagfynegu hyn, sef y buasai Israel yn gwneuthur Jeroboam, mab Nebat, yn frenin arnynt. "A phan welodd holl Israel na wrandawsai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ui yn Dafydd ? Nid oes i ni etifnda- iaeth yn mab Jesse. 0 ! Israel, dos i'th bebyll; Ärych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i'w pebyll." Dynay drwg wedi ei wneud, a'r rhwygiad wedi cymeryd lle. Y mae llawer o drueni wedi deilliaw o ranu gwledydd yn fân deyrnasoedd a breniniaethau. Mae hyn yn dwyn dinystr a ryfel; ao y mae mân lywodraethau yn dra chostus. Wedi i Jeroboam wneuthur cenedl o'r deg llwytb, mae yn teimlo fod yn J3