Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 1877. GAN Y DIWEDDAR BARCH, W. WILLIAMS, HIRWAEN. Heiî. x. 38, 39: "A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd ; eithr o thyn neb yn ol, nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo. Eithr nid ydym ni o'rrhai sydd yn tynu yn ol i golledigaetí; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid." " Dyfyniad o Hab. ii. 4. y w " Y cyfîawn a fydd by w trwy ei ffydd." Cymer- iad a buchedd y dyn duwiol sydd yn cael eu hegluro yn yr ymadrodd, "Eithr o thyn neb yn ol," yn gyffelyb i filwr yn tynu yn ol yn lledrad- aidd o'r fyddin cyn y frwydr angeuol. " Tynu yn ol," neu wrthgiliooddi- wrth grefydd, yw y mater sydd dan sylw yr apostol. "Nid yw fy enaid (medd Duw) yn ymfoddloni ynddo." Wrth enaid Duw y meddylir ef ei hun. " Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynu yn ol i golledigaeth, namyn o ffýdd i gadwedigaeth yr enaid." " Namyn o ífydd." Ffydd fer, ffydd ddiffygiol, ffydd rhy ddiffygiol i gadw yr enaid. " Namyn dwy flyn- edd a deugain." Deugain ond dwy, neu 38 mlynedd. Ffydd rhy fer a rhy wan i fyn'd â dyn i'r nefodd. Mae yr apostol yn yr epistol hwn yn trin gwrthgiliad oddiwrth grefydd yn fwy helaeth na'r un o'r ysgrifenwyr sant- aidd. Mae ef yn traethu ar ei ganlyniadau difrifol ac arswydlawn. Mae efe yn gwneud defnydd helaeth o'r rhesymau a ddygid yn mlaen yn erbyn gwrthgiliad oddiwrth y drefn grefyddol a sefydlwyd trwy Moses. Dywed, uYr un a ddirmygai gyfraith Moses a fyddai farw heb drugaredd dan ddau neu dri o dystion. Pa faint mwy cosbedigaeth (debygwch chwi) y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod trwy yr hwn y santeiddiwyd ef, ac a ddifenwodd ysbryd y gras ?" Y mater sydd i fod dan ein sylw yw gwrthgiliad, neu yr ymddygiad o adael crefydd a throi yn ol fel y ci at ei chwydiad, ac fel yr hwch wedi ei golchi i'w hymdreiglad yn y dom. I. Pechadurusrwydd yr Ymddygiad. 1. Mae yn bechadurus ar gyfrif fod y gwrthgiliwr wedi tyngu llw o ffyddlondeb hyd angeu.—Os darfu i ni iawn ddeall ein hymrhwymiad pan y gwnaethom broffes o Grist. Yr oedd ein hochr ni i'r cyfamod i fod yn dragywyddol yr un fath ag ochr Duw. (l Eto cyfamod tragywyddol a