Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1878. ëŵamùwtfi H^g%ml. GAN Y PABCH. D, LEWIS, LLANELLI. Dywedie am Grist, yn ganlynol i'w adgyfodiad, " A chan ddechreu ar MoseB, a'r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythyrau y pethau am dano ei hun." Wrth esbonio y golygir eglurhau, neu wneud gwir feddwl gair neu ymadrodd yn hysbys. Dygwydda weithiau fod esbonwyr yn tywyllu ymadroddion yn lle eu hegiuro, ond amcan pob esboniwr oddiar ddyddiau Origen a Theodoret hyd yn awr yw, gwneud y tywyll yn eglur, dwyn y dirgel i amlygrwydd. Byddai yr athrawon Iuddewig yn darllen ac yn esbonio cyfraith Moses, ac y mae esbonio y Beibl yn wasanaeth ag y mae duwinyddion yr eglwys Oristionogol wedi cysegru eu hunain gydag aiddgarwch i'w gyflawni, ac y mae ffrwyth ymchwiíiadau lluaws o honynt yn mhlith trysorau Uenyddol gwerthfawrocaf yr oes. Gellir rhanu hanes Cristionogaeth i dri chyfnod. Yn y cyntaf (yr oes Apostolaidd) yr oedd Cristionogaeth yn anwahanadwy gyeylltiedig a Pherson ; yn yr ail (y canol oesau) ag awdurdod yr Eglwys; yn y trydydd (yr hwn a ddechreua gyda'r Diwygiad Protestanaidd) ymae Cristionogaeth yn anwahanadwy gysylltiedig â llyfr—y llyfr hwnw yw y Beibl. Y Beibl yw crefydd Protestaniaid. Felly y mae meddu ar olygiadau cywir am ddysgeidiaeth y Beibl o'r pwysigrwydd mwyaf. I. Bod y Beibl fel llyfe yn un sydd yn gofyn am wasanaeth YE ESBONIWB. 1. Ar gyfrif ei hynafiaeth. Efe yw y llyfr hynaf mewn bodolaetb. Ysgrifenwyd rhanau o hono er ys tair mil o flynyddoedd, ac y mae y Testament Newydd wedi ei orphen er ys yn agos i ddeunaw can mlynedd. Y mae ysgrifeniadau Homer, Socrates, Plato, a'r oll o'r awdwyr pagan- aidd, yn gofyn am egluriadau, ac er nad oes ond 250 o flynyddau er pan fu farw Wiiliam Shakespeare, eto y mae cyfrolau o esboniadau wedi eu hysgrifenu ar ei gynyrchion anfarwol yntau. Gan fod y Beibl mor hen, cynwysa gyfeiriadau at arferion cymdeithasol a theithi meddyliol sydd yn ddyeithr i ni yn yr oes hon, pa rai a ofynant am lusern yr esboniwr i'w hegluro. 2. Ar gyfrif dyeithrwch yr ieithoedd yn mha rai ei ysgrifenwyd, Ysgrifen- wyd yr Hen Destament (gydag ambeli frawddeg eithriadol) yn yr iaith