Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1878. GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. Salm. cxix. 126: " Amser yw i'r Arglwydd weithio; dyddiroasaat dy gyíraith di." " Amser yw i weithio doos yr Arglwydd." Felly y darllenir gan rai ; ac y mae yn ymddangos y goddefa y gwreiddiol y darlleniad yna, ac y mae hyny yn wirionedd. Mae adegau nulldaol pan y gelwir ar bawbsydd yn caru enw yr Arglwydd i weithio yn í'wy egníol drosto. Ni ddylid bod un amser yn segur a diofal, ond y mae rhyw amserau y mae eisieu ymgryf- hau ac ymwroli i weithio. " A phan glywech drwst cerddediad yn mrig y morwydd, yna ymegnia; canys yoa yr Arglwydd a â allan o'th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid." Pan y mae yr Arglwydd yn dyfod allan i wneud pethau neillduol. " amser yw i weithio drosto." Ond cymerwn y geiriau fel y maent yma, " Amser yw i'r Arglwydd weithio, dyddimasant dy gyfraith di." Pel pe dywedasai, " Y mae annuwioldeb wedi myned mor hyf, anôyddwyr wedi myned mor rhyfygus, nes nid jn unig anghredu a dirmygu cyfraith yr Arglwydd, ond ei dyddimu, ei difodi, ei gwneud fel pe na byddai; ac os na chyíÿd yr Arglwydd o blaid ei gyfraith, y mae y cwbl ar ben." "Am-;er yw i'r Arglwydd weithio, dyddimasant dy gyfraith di." Cyfraith yr Arglwydd oedd pob- peth y Salmydd; iddi yr oedd yn ddyledus am y cwbl, ac ynddi yr oedd holl ddefnydd ei gynaliaeth, ei gysur, a'i orfoledd. Mynai ei " dwyn ar ei yögwydd, a'i chyfrif iddo yn lle coron." Ond y mae cyfraithyr Arglwydd yn cael ei sathru, ei dirmygu, ei hanghredu, ei dyddimu ; ac unwaith y dyddimir y gyfraith, dyna holl Jywodraeth Duw mewn annhrefn. " Amser yw i'r Arglwydd weithio, dyddimasant dy gyfraith di." Sylwn POD EHYW ADEG NEILLDUOL AR GREF'iDD, PAN Y GELLIR DYWEYD, "Amser yw i'r Arglwydd weithio." Dylidcofio Fod yr Arglwydd yn barod i weithio bob amser. Nid oes ganddo un amser gwell na'i gilydd i achub ; mae bob amser yn barod. " Wele yn awr yr amser cymeradwy; wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth." Mae yn achub yn mhob man, ac ar bob amser; achubodd Saul, o Tarsis, ar haner dydd ; achubodd geidwad y carchar ar haner nos; galwyd Nathanael odditan y ffigysbren ; galwyd Zacheus o ben y sycamorwydden ; achubwyd y wraig o Samaria ar ddydd gwaith, wrth y ffynon; agorwyd caion Lydia ar y dydd Sabbath, wrth lan yr afon. Waeth gan Dduw pa bryd