Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1878. %Ifogg &väktfjk. OAN Y PABOH. L. JONES, TY'NYCOED. " Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia rai proffwydi ac athrawon: Barnabas a Siraeon, yr hwn a elwid Niger, a Lucius o Cyrene, a Manaen, brawd-maeth Herod y tetrarch, a Saul."—Act. xiii. 1. Dosbabtha rhai esbonwyr lyfr yr Actau i dair rhan yn ei berthynas â hanes yr eglwys Gristionogol ; y rhan gyntaf o ddechreu y llyfr hyd ddiwedd yr wythfed benod, yn cynwys hanes yr eglwys Gristionogol yn mhlith yr Iuddewon ; yr ail ran o ddechreu y nawfed benod hyd ddiwedd y ddeuddegfed, yr eglwys Gristionogol megys ar ei thaith o blith yr Iuddewon i blith y Cenedloedd ; a'r drydedd ran o ddechreu y drydedd benod ar ddeg hyd ddiwedd y llyfr, yr eglwys Gristionogol ar ol ei sefydl- iad yn mhlith y Cenedloedd. Mac adnod y testyn felly yn dechreu hanes y trydydd cyfnod. Dechreua gyda chyfeiriad at yr eglwys oedd yn Antiochia, prif ddinas Syria. Bu Antiochia yn bwysig iawn yn ei pher- thynas â'r ymherodraeth Eufeinig, a daeth drachefn yn llawn mor bwysig yn ei pherthynas â Christionogaeth. Diamheu na fu unrhyw ddinas oddi- gerth Jerusalem mor bwysig yn ei pherthynas â'r apostolion ac â'r eglwys apostolaidd. Yma y sefydlwyd yr eglwys Gristionogol gyntaf yn mhlith y Cenedloedd, ac yma y galwyd dysgyblion Iesu Grist gyntaf yn Grist- ionogion. Cawn yn y testyn restr o'r rhai oeddynt yn aelodau blaen- Uaw yn yr eglwys yn Antiochia yn fuan ar ol ei sefydliad. Gelwir y rhai hyn yma yn broffwydi ac athrawon. Golygir yn gyffredin fod yr ym- adrodd " rai proffwydi ac athrawon " yn tybied rhai o lawer, ac felly awgrymir y gallesid enwi llawer ychwaneg o'r un dosbarth yn yr eglwys hon. Pan gofir nad oedd yr eglwys y pryd hwn ond tua dwy flwydd oed, gwelir fod yma gynydd rhyfeddol wedi bod oddiar ei sefydliad. Pe yr edrychid drwy lawer o eglwysi yn ein plith ni, y rhai sydd wedi eu sefydlu er ye degau o flynyddoedd, dichon mai prin y ceid nifer mor lluosog o wir fiyddloniaid wedi darllen a myfyrio fel y gellid eu teitlo yn "broffwydi ac athrawon " ag oedd yn eglwys Antiochia yn mhen dwy flynedd ar ol ei sefydlu. Y personau a enwir yma fel " proffwydi ac athrawon " ydynt Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lucius o Cyrene, a Manaen, brawd-maeth Herod y tetrarch, a Saul. Pan yn cael rhestr mor hynod yn aelodau yn yr un eglwys, mae yn naturiol i ni ymholi pa un ai yma ai ynte yn rhywle arall y magwyd hwy ? Ac os ceir allan nad yma y dygwyd 13