Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. CHWEFi°JLJJIg:____ (DjrrfgSr. ÖAN Y PARCH. W. THOMAS, WHITLAND. Ymdrech egniol i enill gwobr yw cystadleuaeth. Cyflawni gorchwyl mor gydgordiol â chwaeth a golygiadau beirniad, fel ag i sicrhau dyfarniad cymeradwyol i waith un mewn cyferbyniad i eiddo arall. Ar sail dyfarn- iad felly htwlia ymgeisyad llwyddianus y wobr gynygiedig gan berson neu bwyllgor. Gellir weithiau hawlio gwobrwyon ar sail beirniadaethau cymeradwyol, pan na ellir ar dir cyfiawnder noeth, o gymaint â bod y blaenaf iceithiau yn cael ei restru yn olaf, a'r olaf, ysywaeth, yn flaenaf. Nid yw dedfrydon beirniaid bob amser yn gyfystyr â chyfiawnder gwir- ioneddol gweinyddedig. Y mae cystadleuaeth yn golygu ymdrech i ragori mewn enw a thrysor, a hyny ar draul siomiant ereiìl ymdrechodd lawn cymaint yn ol e» galluoedd a'u cyfleusderau â'r rhai gyhoeddir yn fuddugol, ao efallai ychwaneg. Nid dymunol fod un yn cael boddhad anghyffredin, a hyny yn achlysuro poen eithafol i lawer. Ni ddylid cymysgu cydymgais na chrefyddol. Er hyny, peryglus yw gwneud am y goreu ag ereill. Y mae'r cymhelliadau yn rhy isel, ac yn annheilwng. Dylem ddarllen, myfyrìo, canu, gweddîo, pregethu, gwrando, cyfranu, cymuno, a byw ar ein goreu; ond na ato Duw i ni gynyg gwneud hyny am y goreu â neb pwy bynag ar unrhyw achlysur. Dydd blin fydd hwnw pan welir '• Am y Goreu M yn arwyddair cyflawniadau dynion yn lle " Ar y Goreu." Y mae y naill yn hanfodoi ac anrhydeddus, tra y mae y llaìl yn ddiangen- rhaid a niweidiol. Y mae yn faldodus i ddyweyd íod cystadleuaeth yn hanfodol i dyfiant a dadblygiad. Cymer hyny le yn naturiol—yn raddol neu gyflym, yn ol natur pethau, heb un gradd o gystadleuaeth; fel y gwelir yn amlwg mewn coedydd, llysiau, glaswellt, anifeiliaid, cynydd corfforol a meddyliol dynion. Gellir tynu talent allan, a diwyllio meddwl, yn Uawn cystal, a gwell, heb yr arfer gystadleuol o gwbl. Arwydd ddrwg iawn yw, na ellir eynhyrfu dynion mewn cymydogaeth i ddarllen, myfyrio, canu, ao ysgrifenu heb eisteddfodau, a gwobrwyon ariaaol cynygiedig. Y mae gwobrwyon aneisteddfodol yn llawer gwell na gwobrwyon eistedd-