Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYaiWR. AW8T, 1879. §ttÿûtyt tet ẁŵi jei to%di0. GAN Y PARCH. H. JONES, JTALDYBBENIN. Gwirionedd profedig yn hanes y byd yw, bod dyn yn greadur crefyddol, bod yn rhaid iddo gael rhyw fath o grefydd ; ac eto, eglur yw mai nid peth rhwydd yw cael ganddo dderbyn y drefn gynygia Duw iddo. Gwelodd Duw yn dda yn ei ddoethineb anfeidrol a'i gariad tragywyddol i ddad- guddio trefn gymhwys ac efîeithiol i gadw dyn, sef marwolaeth ei Fab. Ond ni fynai dyn ddim o honi; nid oedd y peth feddyliai efe y dylai hi fod, ac felly gofynai am ryw drefn arall, rhyw drefn a fyddai yn cyfateb yn well i'w deimladau a'i syniadau ef ei hun. " Y mae yr Iuddewon yn gofyn arwydd, a'r Groegwyr yn ceisio doethineb." Yr oedd yr Iuddewon a'r Groegwyr yn wahanol iawn eu syniadau am yr hyn a ddylai crefydd fod, ac eto yr oeddynt 'yn gwbl unol i wrthod crefydd Duw yn ei Fab. Nid oedd digon o arwyddion yn nghrefydd Iesu i foddloni'r Iuddew ; ond yr oedd gormod ynddi i foddloni'r Groegwr. Gofyna yr Iuddew am arwyddion. Nid gofyn am arwydd er profi bod y drefn a bregethai Paul yn drefn oddiwrth Dduw a feddylir, oblegyd yr oedd hyny wedi ei gael lawer gwaith. Ord gofyna yr Iuddew am drefn yn Uawn arwyddion goruwchnaturiol, trefn a'i galluogai ef i alw ar yr haul i aros jny nefoedd, i orchymyn i'r môr i ymagor yn ei haner, ac i dy weyd wrth yr afon am droi yn ei gwrthol, a threfn a'i galluogai ef i ddarostwng holl genedloedd y byd i fod o dan ei awdurdod, ac a'i derchafai yntau felly i fod yn ben ar bawb yn mhobman. Eisieu rhywbeth fel hyn oedd ar yr Iuddew ; ond gan fod y drefn a bregethai Paul yn mhell o fod fel hyn, tramgwyddai yr Iuddew wrthi, a gwrtbodai hi. Gofyna y Groegwr o honoyntau am ddoethineb. Nid oedd pwys ganddo ef am arwyddioa ; ond yr oedd yn rhaid iddo gael doethineb. Gwrthodai efe bob peth goruwchnaturiol, ond cyn belled ag y byddai yn ddealledig, ac yn unol ú'i reswm ef ei hun. Yr oedd y Groegwyr yn rhai enwog am eu dysg a'u gwybodaethau; a phe buasai Paul yn myned atynt, ac yn traddodi darlithiau ar faterion anianyddol, y tebygolrwydd yw, y cawsai y derbyniad gwresocaf ganddynt. Ond gan mai pregethu marw Crist yn fywyd i bechadur yr oedd, nid oeddynt yn deall peth felly, ac ymddangosai hyny yn anghyson â'u rheswm, ac felly edrychent ar y fath athrawiaeth fel fíolineb, a gwrthodent hi gyda'r diystyrwch mwyaf. Yr oedd eu cynlluuiau hwy wedi eu prori yn aneifoithiol i wella a derchafu dynion, 29