Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWr. IONAWR, 1880, GAN J. OSSIAN DAYIES, LLANELLI. Nid oes ond ychydig o'r gweddillion a gyfrifir yn Babyddol wedi dechreu gyda'r Babaeth ei hun. Gwir eu bod wedi treiglo i ni drwýr Babaeth; ond mewn Iuddewaeth a Phaganiaeth yr oedd eu cartrefi cynhenid. Rhyw Rabbiniaeth mewn sidanau, rhyw Baganiaeth baentiedig yw y Babaeth, ac Did oes ynddi ddim braidd na cheir olion o honynt yn yr hen grefydd- au. Nid ydym yn bwriadu condemnio y gweddillion hyn yn unig am eu bod yn Babaidd o ran eu treigliad. Mae y Pabydd yn gwisgo het, a chot, ac esgidiau, ond ni raid i ni fyned yn ben-noeth, a chefn-noeth, a throed- noeth yn herwydd hyny. Creda y Pabydd yn modolaeth Duw, ond ni raid i ni fod yn Atheistaidd am ei fod ef yn Theist. Pobpeth mewn Pab- yddiaeth ag sydd gyson â'r oracl dwyfol, " rheded, a chaffed ogonedd!" Ni îedrwn ni byth felldithio y Fenelons, a'r Arnaulds, a'r St. Cyranuses, a'r Pascals athrylithgar a duwiol a fagwyd ar fronau yr eglwys Babaidd —dynion ag oeddynt yn well na'u crefydd. Pobpeth drwg ddaeth o'r Vatican—at dad y drwg ag ef yn ddiatreg ; ond pobpeth da ddaeth oddi- yno-—bendith benaf y nefoedd a'i dilyno. Mae perl o enau líyffant yn werth ei ganmol, ac ysgrythyr o enau y diafol mor ysbrydoledig ag o enau Öabriel. Yn awr, ni sylwn ar rai o'r gweddülion hyn :— Y darluniau Pabyddol a grogir yn ein tai. Mae canoedd o'r rhai hyn yn Nghymru, wedi eu gwthio iddi yn ddirgel, fe ddichon, gan y Jesuitiaid, y rhai a ymwisgant fel pedleriaid, ac a werthant ddarluniau yn rhad iawn er sicrhau pryniant eang. Dacw hwy. Mae Mair bob amser yn amlwg ynddynt, a choron-bleth o oleuni am ei phen. Mae ei " chalon santaidd " yn y golwg, a fflam ddwyfol yn ymgodi o honi. Mae Cristjyn y darlun weithiau, ond rhyw le ail-law mae efe yn gael—y groes yw canolbwynt y darlun, ac nid y Croeshoeliedig. Dacw ddarlun " Y Fartt," yn Uawn cythreuliaid colynog, pig-fforchog, cynffonog—yn ddigon i ladd ysbryd pob dyn o chwaeth ! Gwelir seintiau drachefn â'r un goron-bleth o oleuni am danynt ag sydd am Grist, fel pe baent gydraddol ag ef. Dyna ddarlun o " Fedd Crist," yn llawn o flodau, ao urns, a chanwyllau cwyr, ac angelion, n'rgroes, bid sicr !—bedd na fu gan Fab Duw ddim i'w wneud ag eí erioed. Mae yna ddau ddarlun poblogaidd yn y wlad hon yn awr. Croes yn