Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1880, ŵ gẁ Ji §ìrpcrL GAN Y PARCH D. DAYIES, HANOYER. Tàlaeth Rufeinig oedd Galatia, yn Asia Leiaf, ar gyffiniau Phrygia, Pontus, Bithynia, Cappadocia, a Paphlagonia. Dywedir mai talfyriad yw Galatiaid o Gallo-Greeci; a thybir mai ffurf arall ar Galatiaid yw Celt- iaid, neu Galliaid. Dyma y gair neu gymeriad a rodda yr hanesydd Rhufeinig enwog, Julius Ceesar, iddynt fel paganiaid, cyn derbyn o honynt yr efengyl:—" Gwendid y Galliaid yw anwadalwch, cyfnewidiol- deb, a diddibyniaeth." Tebyg yw hwn i'r cymeriad roddir iddynt gan yr apostol Paul. Derbyniasant ef ar y cyntaf gyda phob croesaw, yn fuan wedi hyny dangosasant eu hanwadalwch drwy droi eu clustiau gyda yr un parodrwydd i wrando ar y gau-athrawon Iuddewaidd. Dynion o farn a syniadau Iuddewig oedd y dynion hyny—dynion yn ceisio uno Moses a Ohrist, deddf ac efengyl; dynion â'u holl fryd ar lusgo defodau yr Hen Oruchwyliaeth i fewn i eglwys y TestamentNewydd. Yr oeddy terfysg- wyr hyny wedi dyfod i fewn i eglwys Galatia, ac yn ei blino, ac yn tynu i lawr â'u holl egni waith yr apostol. Darbwyllent y brodyr, gyda mesur helaeth o lwyddiant, eu bod wedi eu dysgu yn y grefydd newydd yn an- mherffaith, yn ail law; mai cenad dinod oedd sefydlydd eu heglwys; mai yn Jerusaíem yn unig, yn y deuddeg ac yn y fam-eglwys yno, yr oedd eisteddfa gwirionedd ao awdurdod; ac yn mhellach, fod Paul, beth bynag a gymerai arno yn eu plith hwy, mewn lleoedd ereill, ac ar adegau ereill, wedi rhoddi ffordd i'r enwaediad ; ei fod yn cadw y ddeddf yn mhlith yr Iuddewon, ac yn anog y Cenedloedd i ymwrthod â hi; ei fod yn amcanu at gadw y dychwelediglon mewn cyflwr o ddarostyngiad ; ei fod am eu difuddio o freintiau cyflawn yr tfengyl, y rhai a fwynheid yn llawn gan yr enwaediad yn unig ; ei fod yn " gwneud ei hunan yn bobpeth i bawb " oddiar ddybenion hunanol; ei fod yn ceisio ffurflo plaid iddo ei hunan; ei fod yn galw ei hun yn apostol anfonedig gan Grist, pan nad oedd ond cenad wedi ei anfon gan y deuddeg a'r eglwys yn Jerusalem ; ei fod o ran ei ddaliadau yn dysgu pethau croes i athrawiaeth Pedr ac Iago—dynion oeddynt "golofnau yn yr eglwys,'' a'i fod felly yn annheilwng o gael ei dderbyn ganddynt hwy. Ac felly drwy ddichell y gau-athrawon ystrywgar hyny y denwyd y Galotiaid ynfyd i edrych gyda llygad oer ar ea hen