Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RHAGFYR, 1883. êtetljfetor p §Í00r«torIj-^tólEÌrHrfIj gr %IÍDg8. GAN Y PARCH. R. MORGAN, ST. CLEARS. " Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd."—Heb. xiii. 8. Y MAE yr apostol yn y 'llythyr hwn yn cyferbynu yr hen a'r newydd oruchwyliaethau â'u gilydd, ac yn y cyferbyniad, y mae wedi llwyddo i ddangos rhagoriaeth ddiamheuol y newydd ar yr hen. Y mae diwedd y llyfr yn gnsgliad ymarferoi oddiwrth yr athrawiaeth a ddysgir ynddo. Pan lefarwyd y geiriau ag sydd yn benawd i'n hysgrif, yr oedî yr eglwys Gristionogol newydd golli, trwy ferthyrdod, amryw o ddynion pwysig o'u plith—megys Stephan, Iago brawd Ioan, a Iago tnab Alpheus; ac yn ngwyneb eu colli, teimlai yr eglwys yn ilwfr a digalon. Edrychai parhad Cristionogaeth yn amheus yn eu golwg o dan yr amgylchiadau. Igyfarfod â theimladau isel o'r nodwedd yma llefarai Paul eiriau y testyn. G-wir fod y " blaenoriaid" wedi meirw, ond y mae yr Iesu yn fyw; y maent hwy yn cyfnewid, ond y mae yr Iesu yn ddigyfnewid. Nid yw y geiriau uchod wedi eu bwriadu i brofi anghyfnewidiuldeb Mab Duw. Y mae yr apostol wedi gwneud hyn yn ffurfiol yn nechreu y llyfr. " Ac, Tydi yn y dechreu- ad, Arglwydd, a syflaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylaw di yw y nef- oedd. Hwynthwy a ddarfyddant, ond tydi sydd yn pirhau ; a h^\ynthwy oll fel dilledyn a heneiddiant ; ac megys gwisg y plygi di hwynt, ;i hwy a newidir, ond tydi yr un ydwyt, a'th fiynyddoedd ni phallant.'' Oud yn y cysylltiad y llefarwyd y testyn, cydia yr apostol yny pwnc o anghyfnewid- ioldçb Iesu Grist fel mater wedi ei brofi, a chydia ynddo fel sylfaen i adeiladu gwirioneddau ereill arno. Barnwyf mai pwnc y testya yw— Jhighyfnewidioldeb Iesu Grist yn Sylfaen i Betìiau Gmrthfawr yn Njoruwch- Adeiladaeth yr Eglwys. 56