Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MAWRTH, 1884. íapfojratfr §ẁ{ot. GAN Y PAROH. L, JONES, TY'NYCOED. " Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glâu, a chenym ninau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na'r pethau angenrheidiol hyn."—Actau xv. 28. GWELIR yma fod yr Apostolion a'r eglwys Apostolaidd yn hotii cyd-ddeall- dwriaeth neillduol â'r Ysbryd Glân ; yn gymaint felly, fel mai y peth a welid ynddagan yr Ysbryd Glân a welid yn dda gan yr eglwys, a'r peth a welid yn dda gan yr eglwys a welid yn dda gan yr Ysbryd Glân. Mae yn anhawdd gwybod i sicrwydd i ba raddau yr oedd yr eglwys y pryd hwnw o dan gyfarwyddyd anffaeledig yr Ysbryd Glân, ac a oedd pob peth a wnaeth- pwyd ganddi y pryd hwnw yn unol â meddwl yr Ysbryd. A oedd eu gwaith yn dewis Mathias i lanw lle Judaswedi ei awgrymu gan yr Ysbryd, ai nad oedd ? Ac ai o'r Ysbryd Glân yr oedd eu gwaith yn sefydlu trysor- fa ganolog er cynaliaeth yr achos, ai nad e ì sydd gwestiÿüatf," i'e allai, nad ellir rhoddi atebion pendant iddynt. Ymddengys, fodd bynag, nad oedd ganddynt unrhyw raglen barotoiedig i gyfarfod â phob amgylchiad, ond eu bod yn trystio y derbynient gyn- orthwy a goleuni yr Ysbryd Glân, fel y byddai amgylchiadau yn galw. Nid yw yn ymddangos fod yr Apostolion wedi bwriadu codi trysorfa er cynaliaeth yr achos, ond pan welsant Barnabas ac ereill yn dwyn yr hyn oedd ganddynt i'w roddi at wasanaeth crefydd, penderfynasanc wneud y goreu o'r cwbl nes gweled pa fodd y troai pethau allan, ac mae yn bosibl mai arwain i ymrysonau a diffyg gweithgarwch a wnaeth hyny, ac iddynt yn y diwedd weled mai doethach oedd newid y cynllun i gario yr achos yn mlaen, ac i bob un i roddi yn y casgliad y dydd cyntaf o'r wythnos, yn ol fel y byddai yr Arglwydd wedi ei lwyddo yn ystod yr wythnos fiaenorol. Nid oes un amlygiad fod yr Apostolion wedi bwriadu ordeinio diacon- iaid yn yr eglwys, ond pan gododd ymrysonau yn nghylch amgylchiadau allanol yr achos, iddynt weled nad gweddus iddynt hwy i esgeuluso gwei- nidogaeth y gair i ofalu am bethau íelly, ac y gallesid cael digon o ddynion heb gymhwysder i'r weinidogaeth yn gymhwys i wasanaethu byrddau, a phrofodd amgylchiadau ar ol hyny mai doeth y gwnaethant. Yr un fath y cawn yn y benod hoii. Wedi i ymrafael godi yn eglwys Antioch o berthynas i'r enwaediad, ac i'r cenadon aj.wyntiedig gyrhaedd 11