Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EBRILL, 1884. Iglŵfogírìr g €tMmn îü §mM$nò. GAN Y FARCH. B. WILLIAMS, CANAAN, Cristion yw y cymeriad uchaf a mwyaf anrhydeddus mae yn alledig i ddyn wisgo yn y byd hwn. "Wedi y diwrnod hwnw a nodweddid gan dân diwygiadol o'r fath buraf, pan alwyd dysgyblion yr Arglwydd Iesu Grist "yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia " i lawr trwy yr oesau a'r cenedlaethau, nid yw dyn wedi ei wisgo ag unrhyw gymeriad mor o°on- eddus ac mor llawn o gyfrifoldeb difrifol a'r cymeriad oGristion. Gorfodir dyn gan angenrheidrwydd ei natur a'i gysylltiadau i ymddangos mewn gwahanol gymeriadau, a chysylltir urddas ac anrhydedd mawr â rhai o honynt. Edrychir ar farnwr y Uys gwladol, ar un o Arglwyddi teitlog y wladwriaeth, ac un o aelodaa seneddol y Ty Cyffredin, ac yn neillduol ar un o aelodau cynghor ei mawrhydi, fel cymeriadau urddasol ac anrhydedd- us iawn, ac nid oes neb a lywodraethir gan egwyddorion a theimladau cywir a wrthyd iddynt bob gwarogaeth a pharchusrwydd cyson a gonest- rwydd. Llanwant gylchoedd p wysig, a meddant gyfleusderau i weithredu dylanwad mawr, er drwg neu er da, ar yr holl deyrnas, ac y mae pwysig- rwydd eu gwaith a gor-ddifrifwch eu cyfrifoldeb yn sicrhau iddynt gydym- deimlad a pharch holl ddeiliaid teyrngarol y wlad. Ond pa le bynag mae dyn yn ymgymeryd â gwisgo y cymeriad o Gristion mae yn sefyil ar bwysicach safle—yn Uanw cylch mwy pell-gyrhaeddol yn ei ddylanwad, ac yn arwain i ganlyniadau nad oes neb ond yr Hollwybodol ya gallu eu dirnad a'u mesur. Nid yw yr amgylchiadau allanol yn gwneuthur uu gwahaniaeth—nid yw tlodi, cyfyngder cylch y dylanwad, bychander rhif y talentau, dinodedd ac unigrwydd bywyd, yn tynu dim oddiwrth bwysig- rwydd, urddas, a chyfrifoldeb y cymeriad o Gristion. Os proffesa dyn fod yn Gristion mae yn ymgymeryd ag un o'r anturiaethau pwysicaf yn Uywodraeth Duw. Dywed yn ei broffes ei fod yn ddysgybl—yn cfanlynwr, yn efelychwr i'r Arglwydd Iesu Grist. Dewisia yr Achubwr a'r Iaohawdwr Iesu Grist yn esiampl i'w dilyn, ac ymdrech fawr ei fywyd yw ymdebygu roewn ysbryd, teimlad, egwyddor, a dymuniad i'r Gwr " ni wnaëth bech- od, ac ni chaed twyll yn ei enau." Nid yw bod yn aelod o gymdeithas Gristionogol—nid yw cydymffurfio ya weledig a chyhoeddus ag ordinhadau 16