Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MAI, 1884- GAN Y PARCH. W, EDWARDS, ABERDAR. 2 Thbs. iii. 1, 2 : " Bellach, frodyr, gweddiwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megys gyda chwithau. Ac ar ein gwared ni oddiwrth y dynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb." Coii. iv. 2,3,4: " Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch ; gan weddio hefyd drosom ninau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau : Fel yr eglurhawyf ef, megys y mae yn rhaid i mi ei draethu." 1 Thes. ii. 3 3: " Oblegyd hyny yr ydym ninau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch genym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr, fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol- weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu." Mae y geiriau hyn yn wir ddyddorol i'r eglwys a'r weinidogaeth. Mae Paul yn eu dangos fel yn talu gwarogaeth ucheî i'w gilydd, a hyny trwy gydnabod gwerth a gwasanaeth eu gilydd. Ffordd yr eglwys o gydnabod gwerth y weinidogaeth ydyw, gweddio drosti—" Parhewch mewn gweddi, ganwylied ynddi gyda diolchgarwch; gan weddio hefyd drosom ninau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd." " Bellach, frodyr, gweddiwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd. Ac ar ein gwared oddiwrth ddynion anhywaith a drygionus." Ffordd y weinidogaeth o gyd- nabod gwerth yr eglwys ydyw, dangos hyder yn ei duwioldeb, a graslon- rwydd ei chyflwr—" Obleííyd hyny yr ydym ninau hefÿd yn diolch i Dduw yn ddibaid, oblegyd i chwi, pan dderbyniasoch air Dduw, yr hwn a glyw- soch genym ni, ei dderbyn ef, nid fel gair dyn, eithr fl y mae yn wir air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol-weithio ynoch chwi, y rhai sydd yn credu." Mae yr eglwys yn gweddio yn y dymer oruu, am lwyddiant ac amddiffyn y weinidodaeth, a'r weinidoga^thyn diolch am nerthol weithred- iad Duw ar gyflwr yr eglwys. Ff'yna yr teimladau goreu rhyngddynt â'u gilydd. Ac yn wir nid oes dim yn gweddu yr eglwys a'r weinidogaeth yn wellna choleddu teimladau da at eu gilydd. Yr oedd hyny yn enwog, fel rheol, rhwng Paul a'r eglwysi, yn enwedig ag eglwys y Thessaloniaid. Yr oedd gan yr eglwys ymlyniad wrtho ef—a chanddo yntau serch ati hithau 21